Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - Mehefin 30ain - Gorffennaf 6ed 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Dei Tomos - Medal y Dysgwyr

o dras Eidalaidd - of Italian heritage

Yr Wyddgrug - Mold

llenyddiaeth - literature

profiad - experience

ail-fyw - to re-live

mewn cysylltiad - in contact

amharchus - disrespectful

hogan - merch

hogyn - bachgen

anhygoel - incredible

Cafodd Dei Tomos sgwrs gyda Francesca Sciarrillo, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro eleni .

Merch o Sir y Fflint ydy Francesca ond mae hi o dras Eidalaidd.

Aeth hi i Ysgol yr Alun, Yr Wyddgrug ac wedyn i'r Brifysgol yn Mangor i astudio llenyddiaeth Saesneg.



Bore Cothi - Maer Aberystwyth

teimlo'n gartrefol - feels at home

flynyddoedd maith yn ôl - many years ago

wedi gosod dy wreiddiau - have set down your roots

deugain mlynedd - 40 years

alla i ddychmygu - I can imagine

bachu ar bob cyfle - grasping every opportunity

Sir Drefaldwyn - Montomeryshire

y ffin - the border

Y Trallwng - Welshpool

ers cenedlaethau - for generations

Ac mae'n dda gweld bod ennill y wobr bwysig yn Eisteddfod yr Urdd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd Francesca yn tydy?

Maer Aberystwyth, Mari Turner, fuodd yn sgwrsio gyda Heledd Cynwal ar Bore Cothi wythnos diwetha'.

Mae hi'n faer ar y dre ers Mis Mai eleni.

Dydy hi ddim yn dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond fel cawn ni glywed mae hi'n teimlo'n gartrefol iawn yno erbyn hyn.



Stiwdio - Golygu llyfrau

golygu - to edit

buddsoddi - to invest

gollwng gafael - to let go

cyfresi - series

cymeriadau - characters

blaenorol - earlier

fy ngalluogi i - enables me

ffeithiol - factual

cyfranwyr - contributors

hyddysg iawn - well versed

Mari Turner, Maer Aberystwyth, yn amlwg yn meddwl y byd o'r dre.

Ar raglen Stiwdio'r wythnos diwetha clywon ni ychydig am waith golygydd llyfrau gan Nia Mair Roberts sydd yn gweithio efo Gwasg Carreg Gwalch.

Dyma hi'n sôn am pa mor bwysig i'r swydd ydy cael perthynas dda rhwng y golygydd a'r awdur.



Hanner Call - Bridget James

dioddef - to suffer

cyflwr - condition

cyflyrau dwys - serious conditions

calon - heart

erioed wedi clywed - have never heard

disgwyl - to expect

yn gwmws - exactly

arbenigwr - specialist

Nia Mair Roberts oedd honna'n trafod golygu llyfrrau efo Nia Roberts ar Stiwdio.

Mae Elain yn naw mlwydd oed ac yn dioddef o sawl cyflwr meddygol sydd yn peryglu ei bywyd hi.

Dyma ei mam, Bridget James, yn sôn wrth Heather Gregory am yr adeg gaeth hi wybod am y problemau.



Beti a'i Phobol - Heddlu Cleveland

dymuniadau gorau - best wishes

croesawu - to welcome

aruthrol - immense

cynnal cyfarfodydd - to hold meetings

di-ri(f) - countless

cymunedau - communities

anghenion - needs

yn ddyddiol - daily

cynhadledd - conference

cyn i mi ystyried - before I considered

Dymuniadau gorau i Elain fach ac i'w mam ynde?

Gwestai Beti George dydd Sul diwetha oedd Richard Lewis, Prif Gwnstabl newydd Heddlu Cleveland yng Ngogledd Lloegr.

Mae o'n dod o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, a gofynnodd Beti iddo fo sut groeso gafodd o yn Cleveland.



Deddfau'r Chwedegau - Y bilsen

Deddfau'r Chwedegau - The laws of the sixties

y bilsen atal cenhedlu - the contraceptive pill

heb os - without doubt

degawdau - decades

pwyslais - emphasis

cynlluniau teuluol - family planning

wedi cynyddu - had increased

bellach ymlaen - later on

menywod - merched

agwedd hollol wahanol - totally different attitude

Hanes Richard Lewis, Prif Gwnstabl newydd Heddlu Cleveland yn fan'na ar Beti a'i Phobl.

Roedd y rhaglen Deddfau'r Chwedegau'n ystyried effaith y bilsen atal cenedlau ar fywyd merched.

Dyma'r Dr Marian Thomas o Sir Fôn a'r actores Sue Jones Davies yn rhoi eu barn nhw ar y mater.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gemau Ewrop mis Gorffennaf