Ymdrech deg gan fyfyrwyr Coleg Met Caerdydd, yn rownd gymhwyso ar gyfer Cynghrair Ewropa, o flaen torf o 1,316 yn stadiwm Lecwydd. Ond ymdrech a welodd cwymp yn hwyr mewn gem a welwyd y coleg ar y blaen hyd at chwarter awr cyn y diwedd.
Cafwyd y cychwyn perffaith wrth i Jordan Lam benio gôl ar ôl munud i ddod ar sgor dros y ddau gymal yn gyfartal. Yna wedi iddynt fynd ddwy gol ar y blaen yn yr ail hanner, diolch i gic o'r smotyn gan Dylan Rees, roedd pethau yn edrych yn hynod ffafriol.
Fodd bynnag, er i'r myfyrwyr atal ymosodiadau cynyddol Progress Niederkorm (o Lwcsembwrg) yn hwyr yn y gêm, roedd gol hwyr gan yr ymwelwyr yn ddigon i'w gweld yn symud ymlaen i'r rownd nesaf. A hyn yn bennaf diolch i ddau arbediad penigamp gan y golwr Sebastian Flauss, a sicrhaodd fod y gôl oddi cartref hwyr yna yn ddigon i ennill yr hawl i'w dim wynebu Dinas Corc.
Doedd pethau ddim mor agos ym Melfast, wrth i'r Barri deithio draw i Cliftonville gyda gem ddi-sgor y tu cefn iddynt yn dilyn y cymal gyntaf. Fodd bynnag, doedd yna ddim ateb wrth i Wyddelod y gogledd sgorio dwywaith yn y naill hanner, a chwalu'r Barri o bedair gôl i ddim.
Ymlaen a ni felly i'r wythnos nesaf gyda Chei Conna yn wynebu Kilmarnock o'r Alban yn y Rhyl, yng ngem y cymal cyntaf, yn y rownd gyntaf ar gyfer cymhwyso yng nghwpan Ewropa.
Mae’r Cei wedi cael cychwyn da yn eu gemau cyfeillgar hyd yn hyn a heb ildio gôl o gwbl yn erbyn timau safonol fel Aberdeen o Uwch gynghrair yr Alban (yr un gynghrair ac mae Kilmarnock ynddi), gem ddi-sgor a gynhaliwyd ar faes ymarfer tîm cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon gerllaw Corc y Sadwrn diwethaf.
Cyn hynny, llwyddwyd i guro Cliftonville ar faes Airbus, o un gôl i ddim, yn dilyn gem gyfartal ddi-sgor yn erbyn tîm cenedlaethol Ynys Manaw.
Draw ar y gororau fe fydd Y Seintiau Newydd yn cychwyn eu tymor gyda gem yn rownd gyntaf cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr pan ddaw Feronikeli o Kosovo i Neuadd y Parc.
Cafwyd buddugoliaeth mewn gem gyfeillgar er mwyn paratoi, ar ddiwedd mis Mehefin wrth guro Coleg Met Caerdydd o dair gôl i un, a dilynwyd hyn gyda gem a gynhaliwyd y tu ôl ddrysau caeedig ac oherwydd hyn, yn ôl rheolau, ni chyhoeddir y sgôr, yn erbyn Rangers yn eu canolfan ymarfer gerllaw Glasgow.
Ymlaen ni felly ar daith Ewropeaidd arall yr wythnos nesaf, a gobeithio y bydd yna well ganlyniadau i'r timau Cymreig y tro yma.
