Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mehefin 23-28ain 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Aled Hughes - Reggae

pethau dyfnach - deeper things

negeseuon cymdeithasol - social messages

crefydd - religion

gwarchod - to protect

traddodiad llafar - oral tradition

adlewyrchu - to reflect

penodol - specific

dylanwad - influence

agweddau - attitudes

diwylliant - cultyre

Mae llawer o wyliau miwsig mawr yn digwydd adeg yma'r flwyddyn yn does?

Roedd miloedd wedi bod yn Tafwyl yng Nghaerdydd yr wythnos o'r blaen a'r wythnos diwetha roedd miloedd ar filoedd yn Glastonbury.

Hanes math arbennig o gerddoriaeth gaethon ni ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha, sef reggae.

Dyma i chi Dr Sarah Hill o Brifysgol Caerdydd yn rhoi ychydig o'r hanes.



Bore Cothi - Winnie James

rhyw - sex

anarferol - unusual

meddech chi - so you say

caru - courting

trafod - discussing

pry'ny (pryd hynny) - at that time

aeddfed - mature

unigrwydd - loneliness

perthynas rywiol - sexual relations

cyfathrach - intercourse

Hanes reggae yn fan'na gan y Dr Sarah Hill ar raglen Aled Hughes.

Buodd Shân Cothi yn sgwrsio am gariad a rhyw gyda merch o Grymych yn Sir Benfro sydd newydd briodi. Dim byd anarferol am hynny meddech chi.

Ond mae Winnie James, wnaeth briodi â Dai ychydig cyn y Nadolig, yn 81 oed.



Radio Cymru 2 a Sioe Dafydd a Caryl - Pobol y Cwm

uwchben clogwyn - above a cliff

ymarfer - to rehearse

mas ar leoliad - out on location

pennod - episode

cyfarwyddo - to direct

golygfa - scene

y rhan fwyaf - the majority

gwireddu fy mreuddwydion - realising my dreams

corfforol - physical

dibyn - cliff

Wel dyna gymeriad a hanner ynde? Winnie James yn siarad ar Bore Cothi wythnos diwetha.

Clip arall am gariad sydd gynnon ni rwan, ond stori go wahanol i un Winnie.

Lauren Phillips ydy'r actores sy'n chwarae rhan Kelly ar Pobol y Cwm a hi oedd y gwestai arbennig fore Llun ar y sioe frecwast.

Os dach chi'n gwylio Pobol y Cwm mi fyddwch chi'n gwybod bod Ed, cariad Kelly yn y gyfres (yr actor Geraint Todd) wedi trio lladd Kelly uwchben clogwyn!

Dyma Lauren yn sgwrsio efo Daf a Caryl.



Gari Wyn - canw

Yr Oes Efydd - The Bronze Age

darganfyddiad - discovery

arbenigwyr - experts

gwaith ymchwil - research

canllath - 100 yards

bonyn coeden dderw - an oak tree stump

twmpath llosg - burnt mound

cynhesu - to heat

fa'tha (yr un fath â) - the same as

ar hyd y cenedlaethau - along the generations

Ychydig o hanes Pobol y Cwm yn fan'na ar sioe frecwast Radio Cymru 2.

Mae yna ffordd newydd yn cael ei hadeiladu yn ardal Caernarfon ac yn ystod y gwaith adeiladu ffeindiwyd canw o'r Oes Efydd.

Pa mor bwysig ydy'r darganfyddiad hwn?

Gari Wyn fuodd yn holi'r archeolegwr Iwan Parry.



Cofio - Gwenyn

gwenyn - bees

trafod - to deal with

mantais - advantage

gwylltio - to become angry

trigain mlynedd - 60 years

arferiad - a custom

cyfreithiau Hywel Dda - The Laws of Hywel Dda

deugain can mliwn - four thousand million

dibynnu ar - to depend on

Mae'r gwenyn wedi bod gyda ni yn hirach na'r canw yna hyd yn oed.

Creaduriaid bach oedd thema rhaglen John Hardy wythnos diwetha.

A dyma i chi Wil Griffiths o Aberystwyth yn sôn am gadw gwenyn.



Geraint Lloyd - Owain Davies

cyndeidiau - forefathers

pedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th century

chweched cenhhedlaeth - 6th generation

ymfalchïo - to be proud of

gwreiddiau - roots

gair i gall - a word to the wise

cryn lwyddiant - quite a lot of success

dod i'r brig - to win

iechyd a diogelwch - health and safety

sa i'n gwybod - dw i ddim yn gwybod

Dan ni wedi cael hanes y Canw o oes yr efydd, a hanes y gwenyn ac mae'r clip nesa ma yn mynd â ni yn ôl mewn hanes yn ogystal.

Mae teulu Owain Davies o Lanllwni wedi bod yn ffermio yn Llanllwni ers sawl cenhedlaeth.

Geraint Lloyd gafodd yr hanes.



Yr Hanner Call - Gofal plant

pennaeth cynorthwyol - assistant head

egni - energy

datblygu egwyddorion - developing principles

meithrinfa - nursery

newid cewyn - changing a nappy

bron fwydo - breast feeding

magwraeth - upbringing

llaeth - llefrith

dadleth - to defrost

cydweithio - to co-operate

Hanes teulu Owain Davies o Lanllwni yn fan'na.

Ac yng nghlip ola'r wythnos hon cawn ni flas ar sgwrs Heddyr Gregory gyda Aled Williams o Gaeryfyrddin sy'n dad i dri o blant ifanc.

Roedd Aled yn bennaeth cynorthwyol mewn ysgol uwchradd, ond fe wnaeth o adael ei swydd er mwyn bod yn dad llawn amser.

Faint o drafod fuodd rhyngddo fo a Llinos ei wraig cyn dod I'r penderfyniad?

Dyma Aled yn rhoi'r ateb.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cwpan Her Yr Alban 2019/20

Nesaf

Gemau Ewrop mis Gorffennaf