Main content

Cwpan Her Yr Alban 2019/20

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Os ydych yn cael ychydig o drafferth deall sut mae tîm o fyfyrwyr yn gallu chwarae yng Nghwpan Ewropa, yna fe all eich dealltwriaeth o bêl droed gael ei gymhlethu’n fwy byth yn ddiweddar wedi’r cyhoeddiad am Gwpan Her Yr Alban.

Dangosodd tîm Coleg Metropolitan Caerdydd ddisgyblaeth dda yn eu chwarae wrth wuynebu Progress Niederkrm yn Lwcsembwrg nos Iau gan gyfyngu'r sgôr i un i ddim i’r tim cartref, tra gwelwyd gem gyfartal ddi-sgor ar Stadiwm Lecwydd yng Nghaerdydd rhwng y Barri a Cliftonville o Felfast.

Digon o gyfle a digon o le i deimlo’n hyderus ar gyfer yr ail gymal felly.

Yna, fe ddaethom i ddysgu pa dimau sydd yn cael eu gwahodd i gystadlu yng Nghwpan Her yr Alban eleni.

Hwyrach i chi gofio mai dyma'r gystadleuaeth y cyrhaeddodd Cei Connah'r ffeinal ynddi cyn colli i Ross County y tymor diwetha.

Cwpan yw hon i holl dimau’r Alban o’r Uwch gynghrair (timau o dan 21 oed) a thimau llawn eu Pencampwriaeth, Adran 1 a 2 a hefyd i dimau detholedig o'r Highland League.

Yn ogystal mae yna wahoddiad i wyth o dimau eraill – dau yr un o Uwch gynghrair Cymru, sef Cei Connah a’r Seintiau Newydd fel ag y llynedd , Ballymena United a Glenavon o Ogledd Iwerddon, Waterford a Bohemian o Weriniaeth Iwerddon a dau dîm o Loegr.

A dyma ble mae pethau yn mynd yn ddiddorol, neu gymhleth.

Tra rydym eisoes wedi dod i arfer gyda gweld y Seintiau Newydd sydd wedi eu lleoli yn nhref Croesoswallt , sef yn Lloegr (er waethaf Cywydd mawl i'r lle gan Guto'r Glyn), yn cynrychioli Cymru ar hyd a lled Ewrop, tydan ni heb arfer gweld Wrecsam yn cynrychioli Lloegr!

A dyma be’ sy’ wedi digwydd yng Nghwpan Her yr Alban, Wrecsam a Solihull Moors yn cael gwahoddiad oherwydd eu safleoedd yng Nghynghrair cenedlaethol Lloegr y llynedd.

Felly, mae'r posibiliadau o gymhlethdodau yn ddi-ri

Wrecsam o Gymru yn cynrychioli Lloegr yn erbyn y Seintiau Newydd o Loegr yn cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth Albanaidd! Fe all ddigwydd.

Bydd y gwahoddedigion hyn yn ymuno a'r gystadleuaeth yn y drydedd rownd ym mis Medi ynghyd a deg tîm o Bencampwriaeth yr Alban a'r pedwar tîm ar ddeg arall o'r Alban a fydd wedi ennill eu lle drwodd yn y drydedd rownd ynghyd a'r gwahoddedigion.

Ond cymhlethdod neu ddim, mae hon yn gystadleuaeth gwerth chweil, credwch fi.

Fe welais Gei Connah yn chwarae'r llynedd , a byddaf yn edrych ymlaen am yr un cyffro eto eleni.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mehefin 23-28ain 2019