Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Gari Wyn - Shard
yn gyfrifol am - responsible for
datblygu - developing
llywodraeth - government
pensaer - architect
cynghori - to advice
ddaru o hedfan - hedfanodd e
yn gyhoeddus - publicly
syfrdanol - stunning
argarff anferthol - a huge impression
Sgwrs rhwng Gari Wyn a John Davies. Buodd John farw eleni ond dwy flynedd yn ôl cafodd Gari Wyn sgwrs efo fo am ei waith efo'r cwmni Irvine Sellar Property Co, sef y cwmni oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r Shard yn Llundain. Roedd John yn dod o Feirionydd yn wreiddol.
Bore Cothi - Ascot
y diweddar - the late
gohebydd seneddol - parliamentary correspondent
San Steffan - Westminster
reit grand - quite posh
achlysur - occasion
tra gwahanol - really different
ymdrech - effort
ddim mor llym - not so strict
di-ri(f) - countless
gosod bet - to place a bet
Y diweddar John Davies yn fan'na yn sgwrsio gyda Gari Wyn. Roeed rasus ceffylau y Royal Ascot ymlaen wythnos diwetha ac un sy'n mwynhau mynd iddyn nhw ydy Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol BBC Cymru yn San Steffan. Gofynnodd Shan Cothi iddi hi ddweud yr hanes.
Dan Yr Wyneb - Llyfrau
Prif Weithredwr - Chief Executive
annibynnol - independent
o dan bwysau - under pressure
gwasanaeth ar lein - online service
dadansoddiad - analysis
cynyddu gwerthiant lllyfrau - increasing book sales
dyletswydd - duty
mae'n awgrymu - it suggests
llwyth - loads
stondin - a stall
Elliw Gwawr oedd honna yn siarad ar Bore Cothi ac mae hi'n amlwg wrth ei bodd yn mynd i'r Royal Ascot. Dach chi'n prynu eich llyfrau ar-lein neu dach chi'n cefnogi eich siop lyfrau annibynnol leol?wel roedd hi'n Wythnos Y Siopau Llyfrau Annibynnol wythnos diwetha ac mi gafodd Dylan Iorwerth sgwrs gyda Helgard Krause, sef Prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru a gofynnodd iddi hi oedd prynu ar-lein yn peryglu'r siopau bach lleol?
Stiwdio - Opera
cantorion - singers
llwyfan - stage
ar yr un pryd - at the same time
rhyfedd - strange
cymeriad - character
uniaethu - to empathize
morwynion - maids
anodd tu hwnt - extremely difficult
gwaith ymchwil - research
hala amser - to take time
O fyd y llyfrau i fyd yr opera rwan. Buodd Nia Roberts yn holi'r cantorion opera Leah Marian Jones a Rhian Lois am eu gwaith a sut mae'n bosib actio a chanu ar y llwyfan ar yr un pryd!
Yr Hanner Call - Ffit Cymru
cyfres - series
arweinydd - leader
arddegau - teenage years
gadael gartre - to leave home
rhyddid - freedom
beth bynnag o'n i mo'yn - whatever I wanted
mwya trwm - heaviest
ymateb - response
derbyn sylwadau - receive comments
tipyn bach yn dynn - a little bit tight
Blas bach ar fywyd cantorion opera yn fan'na ar raglen Stiwdio. Ar raglen wythnos diwetha o'r gyfres Hanner Call buodd Heddyr Gregory yn holi Annaly Jones, un o arweinwyr y rhaglen Ffit Cymru ar S4C. Mae Annaly wedi llwyddo i golli llawer iawn o bwysau yn ddiweddar, ond beth wnaeth iddi hi ddechrau meddwl bod anen colli pwysau arni hi?
Llyfr Y Flwyddyn - Llyfr Glas Nebo
gwobr driphlyg - triple prize winner
mwydro - to bewilder
cymaint o anrhydedd - such an honour
ymgolli - to immerse oneself
rhestr byrion - short lists
ddim yn syndod - not a surprise
parhau - to last
mae'n cael ei haddasu - it's being adapted
synnwn i ddim - I would not be surprised
mae'n glamp o gyfrol - It's a heck of a book
Yn tydy pobl yn medru bod yn gas, dwedwch? Annely Jones yn sôn am yr amser pan oedd hi dros ei phwysau. Noson Manon Steffan Ros oedd hi yn noson gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Aberystwyth. Enillodd ei nofel "Llyfr Glas Nebo" y brif wobr ac enillodd hi ddwy wobr arall yn ogystal. Dyma Nia Roberts a Catrin Beard yn trafod y llyfr.
