Main content

Sgript Slam Radio Cymru

Newyddion

Ydych chi’n ddeifiol, yn ddoniol neu’n ddychanol? Ydych chi awydd ysgrifennu? Oes gyda chi syniadau doniol am sgetsys? Os felly, pam na wnewch chi gyfrannu i gyfres gomedi newydd sbon ar BBC Radio Cymru? Rydyn ni’n chwilio am sgetsys byr gwreiddiol ar unrhyw bwnc ar wyneb y ddaear.

Does dim angen profiad nac arbenigedd, dim ond gwreiddioldeb a chreadigrwydd.

Darllenwch ein taflen wybodaeth a'r nodiadau a chynghorion.

Am fwy o fanylion cysylltwch â ni yn sgriptslam@bbc.co.uk cyn gynted ag y bo modd – mae’r dyddiad cau ar Dachwedd 16eg.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 27/10/2015

Nesaf

Bae Colwyn a Thref Merthyr