Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Galwad Cynnar - Chwilod Rheinosoros
Chwilod - beetles
deor - to hatch
pren sy'n pydru - rooting wood
gwichian a sgrechian - screeching ansd screaming
sŵn anfodlon - an unhappy sound
cynrhon - maggots
cnau castanwydden - chestnuts
sgarmes - scrum
ymchwil - research
cawell - basket
...mae Gerallt Pennant wedi arfer cael anifeiliaid o bob math yn stiwdio Galwad Cynnar, a dydd Sadwrn diwetha daeth pedwar rheinosoros i'r stiwdio. Wel, ddim cweit, chwilod rheinosoros oedden nhw -anifeiliaid bach ond swnllyd iawn. Ian Keith Jones, prifathro Ysgol Sant Sior ger Llandudno ddaeth â’r anifeiliaid yno, ac mae'r chwilod yma yn dod yr holl ffordd o Indonesia...
Ar Y Marc - Bryn Law
swnllyd - noisy
rowndiau terfynol - finals
sylwebaeth - commentary
cefnogwyr - fans
y chwiban ola - the final whistle
cyfweliad - interview
o'r galon - from the heart
cynlluniau - plans
digwyddiad - event
barf - beard
Hen bethau bach swnllyd oedden nhw ynde? Mae ganddon ni bedwar clip hollol wahanol i'w gilydd i chi'r wythnos yma. Felly rwan dan ni'n mynd o fyd y chwilod i fyd chwaraeon a chael clywed gan un o ffans tîm pêl-droed Cymru sydd hefyd yn gweithio ar raglenni pêl-droed Sky Sports. Mae Bryn Law yn dod wreiddiol o Langollen a fo oedd yn holi’r chwaraewyr, ar ran Sky, ar ddiwedd gêm bwysig Cymru yn erbyn Bosnia fis Medi diwetha. Ar ddiwedd y gêm honno gaeth chwaraewyr a ffans Cymru wybod bod y tîm cenedlaethol drwodd i rowndiau terfynol Ewro 2016. Mi fuodd Bryn yn dweud mwy am beth ddigwyddodd ar ddiwedd y gêm honno wrth Dylan Jones. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Y Gangster Cymraeg - Cyffuriau
cyffuriau - drugs
cefn gwlad - countryside
cymysgu - mixing
cyn gymaint - so much
lluchio - to throw
pres - arian
wbath - rhywbeth/something
coedwig - wood
claddu - to bury
diolch i Dduw - thank God
...a dw i'n siwr byddwn ni'n clywed llawer mwy gan Bryn Law wrth i Ewro 2016 ddod yn nes. Sgwrs am gyffuriau sy ganddon ni nesa. Mae cyffuriau yn broblem fawr yng nghefn gwlad Cymru yn ogystal ag yn y dinasoedd mawr. Dydd Sul mi glywon ni hanes Jason, o Ddeiniolen yng Ngwynedd, sydd wedi bod yn y carchar am werthu cyffuriau. Roedd o’n gwneud arian mawr ar un pryd ond bellach mae o wedi stopio gwerthu cyffuriau ac mae o'n rhybuddio pobl i beidio â'u defnyddio nhw. Dyma fo'n dweud ychydig am ei hanes wrth Aled Hughes...
Gari Wyn - Zip World
gwifren - wire
deheuol - southernly
hollol - totally
dychrynllyd - frightening
cwymp - a fall
nefoedd - heaven
wirioneddol - really
ei holl ogoniant - all its splendour
myn uffar i - my goodness
anhygoel - incredible
Jason o Ddeiniolen yn fan'na yn rhoi darlun i ni o fyd tywyll y cyffuriau. Mi fasai'r geiriau 'speed' a 'high' yn ffitio mewn i'r stori nesa ma hefyd, ond dydy o ddim byd i wneud efo cyffuriau. Na, dan ni'n mynd i glywed Gari Wyn yn mynd lawr y wifren yn Zip World, Chwarel y Penrhyn ym Methesda. Mae'r wifren yma yn boblogaidd iawn efo twristiaid, ond sut wnaeth Gary fwynhau'r profiad tybed?
