Sŵnami yn perfformio 'Gwreiddiau' yng Ngŵyl Gardd Goll.
Bydd dau o artistiaid cerddorol mwyaf blaenllaw Cymru yn dod at ei gilydd i gydweithio ac i ryddhau casgliad newydd o ganeuon mewn sesiwn arbennig i ddathlu 80 mlynedd ers i’r BBC gychwyn darlledu ym Mangor ym mis Tachwedd.
Bydd Sŵnami o ardal Dolgellau yn cyfarfod gyda’r gantores Casi o Fangor yn stiwdios y BBC ym Mryn Meirion ddiwedd prynhawn Iau, Tachwedd 5, cyn gweithio drwy’r nos – a thrwy oriau mân y bore – mewn Sesiwn Unnos yn cyfansoddi, recordio, cymysgu a rhyddhau casgliad EP newydd gydag o leiaf tair cân erbyn naw fore Gwener, Tachwedd 6.
Bydd yr holl hanes yn cael ei grynhoi mewn rhaglen arbennig gyda Lisa Gwilym i’w darlledu ar y nos Wener ar BBC Radio Cymru.
“Dwi’n lwcus iawn yn cael bod yn rhan o’r prosiect y tro yma,” meddai Lisa. “Rydan ni’n mynd i fod yn effro drwy’r nos, ac erbyn i bobl ddeffro bore Gwener mi fydd gennym ni EP – gobeithio!
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at hyn – ac mae Sŵnami a Casi yn ddewr iawn i dderbyn yr her.”
Mae Sŵnami a Casi yn ddau o ddwsin o’r artistiaid fu’n rhan o brosiect Gorwelion yn ystod ei flwyddyn gyntaf – cynllun ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes newydd, annibynnol yng Nghymru. Ers hynny mae’r ddau wedi mynd o nerth i nerth, gyda Sŵnami yn rhyddhau eu halbwm gyntaf yn ddiweddar a Casi yn y stiwdio ar hyn o bryd yn recordio deunydd newydd sbon.
Ym Mangor yn 2010 y dechreuodd fformat blaengar a chyffrous Sesiwn Unnos dan weledigaeth y tîm cynhyrchu, Gareth Iwan, Dyl Mei a Dwynwen Morgan, a bydd y sesiwn arbennig hon yn un o uchafbwyntiau dathliadau canolfan y BBC ym Mangor yn 80 oed.
“Mae ’na draddodiad bywiog ym Mangor o ddarlledu dyfeisgar ac rydw i’n falch o weld hynny’n parhau heddiw – mor gryf ag erioed,” meddai Ynyr Williams, Is-Olygydd Radio Cymru.
“Mae adlewyrchu a hybu talentau cerddorol Cymru gyfan yn ganolog i’r hyn mae Radio Cymru yn ei wneud, ac fe fyddwn ni’n dathlu hynny yn arbennig ym mis Tachwedd, gydag wythnos o gerddoriaeth amrywiol gan gynnwys yr Ŵyl Gerdd Dant, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym Mhatagonia, Eisteddfod Ffermwyr Ifanc a llu o sesiynau ac atyniadau eraill.
“Mae Radio Cymru yn un o’r gorsafoedd radio fwyaf amrywiol yn y byd o ran y gerddoriaeth - a dim ond ar Radio Cymru y clywch chi holl gerddoriaeth Cymru fel hyn. Ac mae’n wych i fedru dweud ein bod ni wedi bod wrthi yn gwneud pethau fel hyn ym Mangor ers wythdeg mlynedd!
“Daeth y garddwr Henry Lewis, un o gyn-aelodau staff BBC Bangor sydd bellach yn 96 oed, i mewn i’r stiwdio yn ddiweddar i sôn am ei atgofion am weithio ym Mryn Meirion o’r 40au hyd ddechrau’r 80au, ac fe ddarlledwyd ei atgofion ar raglen Dei Tomos nos Sul, Hydref 25. Fe fyddwn ni’n clywed dipyn mwy o atgofion am hanes y lle ’ma yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd, ond mae sgwrs Henry gyda Dei yn sicr yn un i wrando arni yn y cyfamser.”
Casi yn perfformio 'Hela' ar faes yr Eisteddfod.
