Main content

Bae Colwyn a Thref Merthyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ydi'n amser i glybiau pêl droed Bae Colwyn a Thref Merthyr ail ystyried pa gynghrair, neu hyd yn oed ymha wlad, y dylent gystadlu ynddo?

Pwnc llosg efallai, ond drwy edrych ar ganlyniadau ddau dîm eleni, Bae Colwyn yn Uwch gynghrair Gogledd Lloegr a Merthyr yn Uwch Gynghrair De Lloegr, a'r ddau ar y seithfed ris o fewn lefelau pêl droed yn Lloegr, anodd ydi gweld tyfiant a datblygiad parhaus i'r dyfodol o fewn strwythr y gêm yn Lloegr.

Ond yn wahanol i weddill y timau maent yn cystadlu yn eu herbyn yn wythnosol, mae yna lwybr amgen yn cynnig dyfodol gwell, yn fy marn i, petaent am ei ystyried, sef anelu at fod yn aelodau o Uwch Gynghrair Cenedlaethol Cymru.

Bydd llawer o fewn y ddau glwb, am resymau hanesyddol yn fy marn i, yn hollol wrthwynebu’r fath beth!

Mae’n debyg y bydd yna rai hefyd o fewn Cymru yn anfodlon o weld y ddau dîm, hwyrach, yn cael llwybr hawdd i'r Uwch Gynghrair Cenedlaethol.

Ond onid gwell syniad fyddai agor y drws gan wahodd dau dîm a fyddai’n cyfrannu'n sylweddol at safon pêl droed o fewn Cymru yn cystadlu yn ein cynghrair cenedlaethol ac yn anelu at gystadlu ar lwyfan rhyngwladol Ewrop?

Does dim amheuaeth fod y ddau glwb, Bae Colwyn a Merthyr wedi, ac yn parhau i gyfrannu’n helaeth at hybu pêl droed o fewn eu cymunedau gyda Merthyr wedi derbyn cydnabyddiaeth a gwobr gan UEFA am eu hymdrechion.

Mae Merthyr hefyd ynghanol datblygu cynllun sydd wedi derbyn grant gan Gynulliad Cymru ar gyfer datblygu cyfleuster aml bwrpas ar gyfer y gymuned yn eu stadiwm ym Mhenydarren, ac i mi, y cam nesaf fyddai cyplysu hyn a chyfaniad llawn ar y cae o fewn strwythur Cymdeithas Bel Droed Cymru drwy gystadlu yn yr Uwch Gynghrair. Draw ym Mae Colwyn, mae’r clwb wedi penodi eu pedwerydd ers ymadawiad Lee Willams yn 2013.

Mae yna eto gyfraniad buddiol gyda'r gymuned leol yn y Bae a’r ardal gyfagos, gydag academi bel droed llewyrchus yn cynnig hyfforddiant a gemau i dimau chwaraewyr o dan wyth oed hyd at bedwar ar bymtheg.

Mae gwefan academi’r clwb yn amlinellu yn eu strwythr, eu hamcanion gan gynnig dilyniant a pharhad yn eu darpariaeth ar gyfer datblygu'r medrau'r chwaraewyr er mwyn cyrraedd safon a fyddai yn eu galluogi i chwarae i dimau o fewn Uwch Gynghrair Cymru neu uwch ar lefel proffesiynol.

Gresyn felly na fyddai’r Bae yn un o'r timau hynny allai gynnig y cyfle i'w chwaraewr lleol chwarae a chystadlu o fewn yr uwch gynghrair cenedlaethol y maent mor barod i gydnabod ei safon.

Fe fyddai gweld y Bae yn anelu ar gystadlu ar lwyfan Ewrop hefyd yn dipyn o sbardun. Fe fyddai gweld pêl droed Ewropeaidd yn ôl ar Barc Penydarren hefyd yn dipyn o achlysur yn enwedig o gofio’r gemau hynny yn erbyn Atalanta Bergamo o’r Eidal beth amser yn ôl.

Dyna be fyddai cyflawni camp wrth ymestyn ymhellach y diddordeb o fewn dwy ardal sydd yn barod yn gweld eu clybiau lleol yn cyfrannu cymaint i ddatblygu’r gêm o fewn eu cymunedau.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Sgript Slam Radio Cymru

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 03/11/2015