Yn dilyn llwyddiant cynllun Gorwelion y llynedd, mae BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am 12 artist newydd i’w cefnogi dros y flwyddyn nesaf. Byddant yn cael cyfle i berfformio mewn digwyddiadau ar draws Cymru ac ar orsafoedd radio cenedlaethol BBC Cymru - BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Fe fydd y cynllun yn cefnogi’r artistiaid mwyaf cyffrous, sydd heb arwyddo i label recordio, sydd â’r potensial i dorri tir newydd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae gofyn i gerddorion a grwpiau sydd am gael eu hystyried ddanfon recordiad o’u gwaith gwreiddiol, llun a bywgraffiad byr. Bydd artistiaid Gorwelion yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth radio. Am fanylion llawn ewch i bbc.co.uk/gorwelion
Yn 2014, wnaeth y cynllun Gorwelion helpu 12 artist ar draws Cymru mewn ffyrdd gwahanol – o fentora i berfformio mewn gŵyliau.
Fe fydd artistiaid Gorwelion yn 2015 yn elwa o:
• gynllun arbennig o weithgareddau radio ar y BBC, fel sesiynau, a rhestrau chwarae;
• cyswllt uniongyrchol gyda chynhyrchydd BBC sy’n goruchwylio’r cynllun;
• sesiwn recordio yn BBC Maida Vale (stiwdio recordio’r BBC yn Llundain ers 1946);
• offer hyrwyddo gan gynnwys cynhyrchu fideo a lluniau proffesiynol;
• cynllun mentora arbennig a chyrsiau hyfforddi;
• cyfleoedd cerddorol cenedlaethol a rhyngwladol;
• cyfle i chwarae yn nigwyddiadau BBC Cymru drwy gydol y flwyddyn,
• enwebiadau trwy BBC Introducing i chwarae mewn digwyddiadau mawr ledled Prydain.
Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 9 Chwefror, 2015.
Fe fydd y 12 llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar 6 Ebrill, 2015 ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru.
Mae Gorwelion yn bartneriaeth newydd dwy flynedd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu talent cerddorol newydd ac i roi llwyfan i gyrraedd cynulleidfaoedd.
Er gwybodaeth, bydd dwy raglen Gorwelion, a fydd yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau 2014 yn cael eu darlledu ar BBC2 Wales ar y 21 a’r 28 Ionawr am 11.25pm.
