Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Ionawr 20, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Pobol y Cwm

cymar - partner

gyrfa - career

i ryw raddau - to some extent

wedi callio - wisened up

menyw - dynes

golygfeydd - scenes

personoliaeth - personality

gynnau - a moment ago

enfawr - huge

anelu ato - to aim for

...Pobol y Cwm. Os dach chi'n dilyn y rhaglen mi fyddwch chi'n gwybod bod un o gymeriadau mwya poblogaidd yr opera sebon - Meic Pierce yn marw o ganser. Daeth yr actor Gareth Lewis, sy'n chwarae rhan Meic, at Shan Cothi ddydd Mercher i gael sgwrs am ei gyfnod yn y gyfres. Yno hefyd oedd Nia Caron sy’n chwarae rhan Anita, ei gymar yng Nghwmderi...

Dei Tomos - Y Gymraeg yng Nghaerdydd

tafodiaith - dialect

plwyfi - parishes

troad y ganrif - turn of the century

ffynonellau - sources

nodweddiadol o - characteristic of

y cymoedd - the valleys

does na fawr o olion - hardly any remains

brodorol - indiginous

datblygu - developing

cymysgedd ieithyddol - liguistic mixture

Mi fydd Cwmderi yn rhyfedd iawn heb yr hen Meic yn bydd? Yng Nghaerdydd mae stiwdio Pobol y Cwm ac wrth gwrs Saesneg ydy iaith gynta rhan fwyaf o bobl y ddinas y ddyddiau hyn. Ond yn ôl Dylan Foster Evans does dim rhaid i chi fynd yn bell iawn mewn hanes i weld mai tref Gymraeg oedd Caerdydd ers stalwm, ac roedd pobl Caerdydd yn siarad tafodiaeth arbennig sef y Wenhwyseg. Dyma Dylan yn siarad efo Dei Tomos ddydd Mawrth diwetha...

Cofio - Penyberth

yn y cyfamser - in the meantime

fe dybiais i - I assumed

yn dynesu at y gwersyll - getting closer to the camp

cyfarth - barking

ceisio atal y ci - trying to restrain the dog

chwystrellu - to spray

yn chwyrn - fiercely

roedd o wedi cydio - it had taken hold

y wawr goch - the red dawn

cais - a request

...a'r hyn sydd yn bwysig ynde, ydy bod y Gymraeg yn dod yn gryfach unwaith eto yn y brifddinas. Dylan Foster Evans yn fan'na yn rhoi ycyhydig o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd i ni ar raglen Dei Tomos. Poeni am sefyllfa'r iaith ym Mhen Llyn oedd Lewis Valentine, D.J. Williams a Saunders Lewis pan losgon nhw'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth ger Pwllheli ym Mil Naw Tri Saith. Dyma i chi un o'r tri, Lewis Valentine, mewn sgwrs gafodd ei recordio ym Mil Naw Saith Chwech, yn disgrifio sut aethon nhw ati i losgi'r ysgol fomio...

John Walter - gwastraff bwyd

gwastraff - waste

ystadegau - statistics

tunelli - tons

tirlenwi - landfill

yn enwedig - especially

marchnata - marketing

dyddiadau arddangos - display dates

y drefn iawn - the correct order

amgylchedd oer - cold environment

synhwyro - to sniff

Difyr ynde? Anghofio matsys! Meddyliwch! Dan ni'n mynd i orffen efo clip amserol iawn. Dw i'n siwr bod llawer ohonon ni wedi bwyta ac yfed gormod dros y Nadolig, a gwastraff bwyd oedd pwnc sgwrs gafodd John Walter Jones ar ei raglen ddydd Mercher efo Catrin Beard. Dyma i chi flas (sori) ar y sgwrs...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf