Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Dylan Jones - George Gibbs
yn ystod yr ymddeoliad - during the retirement
casglu gwybodaeth - collecting information
claddais i - I buried
crwydryn - a tramp
anhygoel - incredible
ymladd yn y rhyfel - fighting in the war
Penbedw - Birkenhead
parchu - to respect
llaeth - llefrith
angladd - funeral
...ga i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Mae hi'n adeg o'r flwyddyn yn tydy, pryd dan ni'n edrych yn ôl ar y gorffennol ac yn ogystal yn edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. Edrych yn ôl ar fywyd tramp neu drempyn o'r enw George Gibbs wnaeth y Parchedig Goronwy Evans ar raglen Dylan Jones ddydd Mercher. Ond ddim trempyn cyffredin oedd George. Doedd o ddim yn yfed alcohol, ac roedd o'n cymryd diddordeb mawr yn mywyd Cymru ac yn y Gymraeg, er mai o'r Alban roedd o'n dod yn wreiddiol. Dyma ychydig mwy o'i hanes...
Bore Cothi - Elvis
dynwared - to impersonate
cyfnod cynnar - early period
i raddau helaeth - to a great extent
wedi dylanwadu yn rhyfeddol - had influenced greatly
faswn i ddim yn mentro - I wouldn't dare
dull - style
cymryd mantais - to take advantage
cyfrwng - the media
Aled Hughes yn fanna yn cael clywed ychydig o hanes y crwydryn George Gibbs ar raglen Dylan Jones. Caryl Parry Jones oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ddydd Iau diwetha, ac mi roedd hi'n digwydd bod yn wythdeg mlynedd ers i Elvis Presley gael ei eni. Mae yna lawer o bobol wrth gwrs yn dynwared Elvis o hyd. Mae Geraint Benney yn un ohonyn nhw ac mae o'n perfformio o dan yr enw Elvis Preseli. Un arall oedd yn edrych yn debyg i Elvis ers talwm oedd Jeifin Jenkins, un o gymeriadau yr actor Iestyn Garlick. Cafodd Caryl sgwrs efo Geraint ac Iestyn a dyma i chi flas ohoni....
Cofio - Norah Isaac
rhengoedd - ranks
deallus - intelligent
ysgoloraieth - scholarships
llefais i - I cried
ymarfer corff - physical exercise
anrhydedd - honour
cynnig am swydd - to apply for a job
prin - rare
sanctaidd, ysbrydoledig - sacred, inspiring
mentro'u bywydau nhw - risking their lives
Elvis Preseli a Jeifin Jenkins yn siarad yn fan'na efo Caryl Parry Jones. Sgwn i be oedd barn Norah Isaac am Jeifin? Buodd hi'n dysgu drama i Iestyn Garlick yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin yn y saithdegau ac roedd hithau'n enw mawr a phwysig ym myd y ddrama yng Nghymru. Buodd hi farw yn Nwy Fil a Thair ond ar raglen Cofio ddydd Llun gaethon ni gyfle i glywed sgwrs gafodd ei recordio ym Mil Naw Wyth Saith rhyngddi hi a Sulwyn Thomas. Dyma hi'n sôn am ei gyrfa gynnar...
Rhaglen Dylan Jones - Deiet y Carped Coch
arbenigwyr - experts
petai - tasai
glunu at - to stick to
diffyg maeth - lack of nutrition
oherwydd - achos
cydbwyso - to balance
corff - body
cyfrinach - secret
ffon hud - magic wand
cynnal y pwysau - to maintain the weight
Llais Norah Isaac yn fan'na mewn sgwrs gafodd ei recordio ym Mil Naw Wyth Saith. Faint ohonoch chi sy wedi dechrau deiet yn y flwyddyn newydd? Llawer iawn dw i'n siwr - ond byddwch yn ofalus. Mae sylw mawr wedi cael ei roi yn ddiweddar i Ddeiet Detox Gwyneth Paltrow, neu 'Deiet y Carped Coch'. Dyma be oedd gan Sioned Quirck y deietegydd i ddweud am y deiet arbennig hwnnw...
Richard Rees - Sbardun
cyfeillion agos - ffrindiau agos
cyfeillachu - to fraternise
moesol - moral
dibynadwy - dependable
rhoi'r gorau iddi - to give it up
twll reit ddwfn - quite a deep hole
erchyll - terrible
cyfnod anodd iawn - a very difficult period
triniaeth - treatment
arna i fy mywyd - I owe my life
Sioned Quirk yn fan'na yn sôn am y peryglon mewn ambell i ddeiet wrth Aled Hughes ar raglen Dylan Jones. Dan ni'n mynd i orffen yr wythnos yma efo rhaglen Richard Rees lle buodd llawer iawn o bobl yn cofio am y cerddor Alun “Sbardun” Huws fuodd farw ychydig ddyddiau cyn y Nadolig. Fel ffrind da roedd yr actor John Pierce Jones yn ei gofio fwya, a dyma fo'n sôn am y dyddiau da, ond hefyd am yr adeg pan buodd Sbardun yn help mawr personol iddo fo...
