Main content

Blog Ar Y Marc: Merthyr a Wrecsam

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda Wrecsam yn dangos canlyniadau mor ansefydlog, mae’n anodd darogan be a fyddai'n debygol o ddigwydd nesaf ar Gae Ras Prifysgol Glyndŵr. Doedd fawr o neb, hyd yn oed Mystic Meg, wedi gallu rhagweld y byddant wedi colli adref i Telford, sydd ar waelod y Gyngres, o bedair gôl i ddim y Sadwrn diwethaf. Yna taith i Dover ganol wythnos a cholli eto.

Yn wir, gyda llawer o gefnogwyr Wrecsam yn honni na ddylai’r clwb fod yn y gynghrair yma, ac yn feunyddiol chwilio am ddychweliad i Adran Dau Lloegr, mae eu cymdogion dros Glawdd Offa, sef Caer, yn ystyried eu hunain yn ddim mwy na thîm sydd yn ceisio adfer eu parch, ail afael a'u gorffennol a chadw eu lle yn yr un gynghrair.

Erbyn heddiw mae’r ddau dîm gyda’r un faint o bwyntiau gyda Wrecsam dim ond deg pwynt uwchben y timau sy’n ceisio osgoi disgyn allan o'r Gyngres.

Hwyrach fod cefnogwyr Wrecsam wedi gobeithio am well o dan reolaeth Kevin Wilkin gan freuddwydio am gemau yn erbyn Casnewydd neu Portsmouth y tymor nesaf. Ond os na fyddant yn ofalus, taith i Fae Colwyn, Solihull Moors neu Stalybridge Celtic fydd yn eu hwynebu os nad yn ofalus!

Siom hefyd yng Nghasnewydd y Sadwrn diwethaf wrth i’r tîm lithro yn annisgwyl oddi cartref yng Nghaergrawnt o bedair gôl i ddim. Petaent wedi ennill fe fyddant wedi dringo i’r trydydd safe , felly rhaid bodloni ar y pumed safle ar hyn o bryd, gyda thaith i Northampton ddydd Sadwrn.

Ond dyrchafwn ein llygaid i gyfeiriad y cymoedd ac at Ferthyr o ble daw ein cymorth.

Y llynedd daeth tîm tref Merthyr mor agos at ennill dyrchafiad allan o adran un (rhanbarth y de a’r gorllewin) o gynghrair Evo Stick Lloegr, mae’r Merthyron yn sefyll ben ac ysgwyddau ar y brig ar hyn o bryd gyda chwe deg tri o bwyntiau, naw pwynt yn well na Thref Taunton yn yr ail safle.

Daeth y fuddugoliaeth ddiweddaraf draw dros font Hafren yn Clevedon bnawn Sadwrn o ddwy gol i un. Gyda’r newydd ddyfodiaid Kyle Patten ac Aaron Collins (y ddau ar fenthyg o Gasnewydd) yn chwarae eu gemau cyntaf, aeth Merthyr ar y blaen ar old deng munud diolch i gol Ryan Green, cyn i Kayne McLaggon ychwanegu'r ail gyda chic o'r smotyn.

Mae hyn yn rhoi’r Merthyron ar rediad o golli ond un gêm yn eu deg diwethaf. Yfory, bydd y tîm yn dychwelyd i stadiwm E-Cigg ym Mhenydarren i wynebu Fleet sydd yn gorwedd ond tri safle o’r gwaelod. Fe ddylai hon fod yn gêm y dylai Merthyr ei hennill, ond yna roedd bron pawb yn disgwyl i Wrecsam guro Telford wythnos diwethaf!

Bydd Guillem Bauza (cyn chwaraewr Abertawe) ddim ar gael gan waharddiad arno am ddwy gêm yn dilyn trosedd a bydd y ddau newydd ddyfodiad ar fenthyg o Gasnewydd yn edrych ymlaen am eu gem gyntaf adref.

Gofid a phryder felly draw ar Gas Ras Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam ond mae’r Merthyron yn disgleirio ac yn prysur symud at raddio o fewn eu cynghrair gyda pherfformiadau meistrolgar wrth geisio ennill dyrchafiad uniongyrchol i uwch gynghrair de Lloegr y tymor nesaf.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf