Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Straeon Bob Lliw - Byw gydag Arthur
cymaint o drafferth - so many problems
triniaeth - treatment
addas - suitable
cyffur - a drug
garddwrn - wrist
bysedd traed - toes
wedi plygu - bent
o dan yr argraff - under the impression
mor gymleth - so complicated
gofid - concern
"...clip o'r rhaglen 'Byw gydag Arthur' gafodd ei chlywed ddydd Llun diwetha. A phwy ydy Arthur meddech chi? Wel cyfeirio at athritis, neu crud y cymalau, mae'r teitl. Ond nid jôc ydy Rheumatoid Arthritis i Jemma, oedd yn siarad ar y rhaglen. Mae Jemma wedi bod yn diodde am ugain mlynedd efo'r cyflwr ers iddi fod yn bymtheg oed. Mae’r rhaglen yn dilyn siwrna Jemma a’i gwr ‘And’ wrth iddyn nhw drio cael babi, a’r problemau mae'n rhaid i Jemma wynebu."
Dafydd a Caryl - Trystan Gravelle
wyneb cyfarwydd - a familiar face
mo'yn - eisiau
profiad gwych - brilliant experience
tanastudio - undestudy
gyfres - series
maeddu fe lan - beat him up
cynlluniau - plans
gorffwys - to rest
cynrychioli - representing
bradwr - traitor
"Jemma ac And yn fan'na yn rhoi disgrifiad clir i ni o sefyllfa anodd iawn, a sut mae'r ddau ohonyn nhw'n llwyddo i ddelio efo fo. Ydach chi'n un o ffans y rhaglen 'Mr Selfridge' . Os ydach chi, dach chi'n siwr o nabod y cymeriad Victor, y dyn rhamantus efo acen cocni. Ond oeddech chi'n gwybod mai Cymro Cymraeg sydd yn chwarae'r rhan hwnnw? Ia, Trystan Gravelle o Drimsaran ger Llanelli ydy Victor. Mi gaethon ni sgwrs efo Trystan ar Daf a Caryl ddydd Mawrth. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."
Cofio - Yr Eidal
hedfan - to fly
bygythiadau - threats
awgrym - suggestion
cymorth - help
hudo - to seduce
fodan - merch
llinellau anhygoel - incredible lines
chwedloniaeth - mythology
Rhufain - Rome
cwpan y byd - World Cup
"Trystan yn fan'na yn sôn am yr adeg pan oedd o'n fasgot i glwb rygbi Gleision Caerdydd, a hynny'n amserol iawn a chystadleuaeth y Chwe Gwlad wedi dechrau ddydd Sadwrn diwetha a Cymru wrth gwrs yn dechrau efo gêm yn erbyn yr Eidal. Doedd hi ddim y gêm orau ond mi enillodd Cymru, diolch byth! Ac mi roedd yna thema Eidalaidd i 'Cofio' yr wythnos diwetha. Cofio gêm rhwng tîm o Gymru a thîm o'r Eidal oedden nhw, ond gêm bêl-droed oedd hon. Sgwn i be ydy 'C'mon Middfîld' mewn Eidaleg?"
Manylu - Ymladd cwn
anafiadau - injuries
llochesi cwn - kennels
gwirfoddolwyr - volunteers
croen ac esgyrn - skin and bones
cwffio - ymladd
milfeddyg - vet
cynnydd yn y nifer - an increase in the number
coelio - credu
ymholiadau - enquiries
mae na syndod - there's amazement
"Ia, cyfres gomedi wych oedd 'C'mon Midffîld' am dîm pêl-droed Bryncoch. Mi glywon ni ddau o'r actorion yn y clip yna Siân Wheldon, oedd yn chwarae rhan Sandra, a LLion Jones oedd yn chwarae rhan George - ei chariad hi. Does yna ddim byd doniol yn y clip nesa ma. Wyddoch chi bod ymladd cwn dal i ddigwydd yng Nghymru'r dyddiau yma? Dyna oedd thema rhaglen 'Manylu' ddydd Mercher. Dyma i chi ran o sgwrs rhwng Tomos Morgan o dîm 'Manylu' a John Morus, o Ganolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd."
Georgia Ruth - Pete Seeger
dylanwad aruthrol - an immense influence
codi oddi ar eu tinau - to get off their backsides
marwolaeth - death
prif offeryn - main insturment
arf - weapon
ymosodol - aggressive
mynegi teimladau - to convey feelings
ymgyrchu - campaigning
yr amgylchedd - the environment
profiad ysgytwol - a moving experience
"Mae'n anodd credu, fod pobl yn medru bod mor greulon. Buodd y canwr protest Americanaidd Pete Seeger farw yr wythnos diwetha. Tasai o wedi clywed disgrifiadau John Morus o rai o'r pethau sy'n digwydd yn y gogledd, dw i'n siwr basai o'n sgwennu cân brotest yn erbyn ymladd â chwn. Mi gafodd Georgia Ruth sgwrs efo Dafydd Iwan nos Iau am Pete Seeger, a dyma Dafydd yn son am y dylanwad aruthrol gafodd y canwr gwerin arno fo pan oedd Dafydd yn hogyn ifanc..."
