Main content

Y Chwe Gwlad: Mwy o sbeis ar y gêm?

Cennydd Davies

Gohebydd rygbi

Dwi’n siŵr bod nifer ohonoch wedi bod i fwyty rhywdro ac wedi gadael a theimlad gwag. Dyma’n union oedd teimlad cefnogwyr Cymru’r Sadwrn diwethafwrth adael Stadiwm y Mileniwm.

Ond, os mai’r Eidal odd y cwrs cyntaf does dim dwywaith mai’r gêm yr wythnos hon ar draws y Môr Iwerddon yw’r prif gwrs - a hynny am sawl rheswm.

Er mawr rwystredigaeth i Warren Gatland mae’r darlledwyr ac aelodau’r wasg yn ceisio gosod y naws drwy danlinellu’r tyndra rhyngddo a Brian O’Driscoll yn sgil yr hyn ddigwyddodd ar daith y Llewod.

Yn siarad o brofiad cefais flas ar y rhwystredigaeth hon wrth gyfweld ag Alun Wyn Jones. ”Oes unrhyw fwy o sbeis ar y gêm?” gofynnais yn ddigon diniwed.

”Sbeis!” atebodd y clo ”Ry’ ni ddim yn trafod bwytai India fan hyn... ”

Yn amlwg roedd y cwestiwn wedi’i gorddi ac wedi taro nerf!

Cennydd Davies, Caryl Parry Jones, Carolyn Hitt, a Gareth Charles

Wrth i mi ysgrifennu hwn dwi’n paratoi i deithio i Ddulyn. O leia mae’n weddol sicr bydd hediadau o Gaerdydd yn cyrraedd yr Ynys Werdd. Dyw’r sefyllfa ddim mor sicr i’r miloedd sy’n bwriadu teithio o borthladdoedd Caergybi ac Abergwaun. Ond dwi’n siŵr fydd pawb yn cyrraedd yn y pen draw a’r daith yn un hwylus (onest).

Er gwaethaf apêl Gatland i anghofio am y gorffennol does dim modd osgoi’r ffaith mai dyma fydd ymgyrch olaf Brian O’Driscoll cyn ymddeol. Felly bydd y Gwyddelod yn awyddus i ddod â’i yrfa i ben ar nodyn uchel. Ac o ystyried yr elyniaeth iach rhwng y chwaraewyr oedd ar daith y Llewod fe allai’r hyn sy’n digwydd yn stadiwm Aviva b’nawn Sadwrn fynd ymhell i benderfynu tynged y bencampwriaeth eleni.

Prin yw’r newidiadau i Gymru wrth gwrs. Mae’r tîm i bob pwrpas yn sefydlog iawn erbyn hyn a dim syndod bod yr hyfforddwr wedi troi nôl at gapten y Llewod, Sam Warburton.

Gair hefyd am Leigh Halfpenny. Bydd y cefnwr ynghyd a Paul James yn cyrraedd carreg filltir yn erbyn Iwerddon sef 50 o gapiau dros Gymru. Y cefnwr yw’r ieuenga’ i gyrraedd y ffigwr hynny ag os yw’n cyflawni unrhywbeth tebyg i’r hyn ddigwyddodd y llynedd yna mae’n argoeli’n dda i Gymru. Yn wir, cic Halfpenny odd y gwahaniaeth yn Nulyn dwy flynedd yn ôl, buddugoliaeth a arweinodd at y Gamp Lawn. Bydd canlyniad tebyg y tro hwn yn plesio’n fawr.

Mwynhewch y gêm!



Gwefan Pencampwriaeth Chwe Gwlad Radio Cymru

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 05 Chwefror 2014