Y Sadwrn yma bydd Wrecsam yn ail afael a’u hymdrech i ddringo’r tabl yn y Gyngres ar benwythnos heb gêm y Sadwrn diwethaf. Cyn hyn, gwelwyd buddugoliaeth o ddwy gol i ddim dros Tamworth yn cadw rhediad y tîm o fod wedi colli dim ond unwaith ers y Nadolig. Rhediad llawer mwy dymunol ac un a ddylai gael ei ymestyn ymhellach yfory wrth gyfarfod a Dartford ar Gae Ras Prifysgol Glyndŵr. Mae Dartford yn ail o waelod y Gyngres a dim ond wedi ennill dwy gêm oddi cartref drwy'r tymor.
Yna nos Fawrth nesaf bydd taith i Henffordd a gem a ddylai fod yn fwy anodd yn erbyn tîm sydd â record debyg iawn i Wrecsam ar eu maes eu hunain. Ond, petai llwyddiant yn dod i dîm Andy Morrell yn y ddwy gêm yma, byddai eu hymgais i gyrraedd y safleoedd ail gynnig yn dod yn llawer mwy realistig.
Draw i gyfeiriad yr arfordir cafodd gem Bae Colwyn yn erbyn Harrogate ei ohirio ddydd Sadwrn diwethaf y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor yn parhau.
Yn y De, bydd Casnewydd yn Adran Dau Lloegr wynebu Fleetwood ar Rodney Parade heno, am chwarter i wyth. Yn dilyn y gêm gyfartal ddi-sgor oddi cartref yn Southend nos Wener ddiwethaf, mae’r tîm o Went yn yr wythfed safle, ac yn ei chael hi’n anodd ers y Nadolig gan nad ydynt wedi ennill ers dydd Sant Steffan. Ers hynny, chwaraewyd pum gem gyda dwy yn gyfartal a cholli tair. Amser felly i newid ffortiwn a cheisio adennill rhediad tebyg i’r un a welwyd ganddynt yn yr Hydref wrth golli dim ond tair gem mewn tri mis.
Allwn ni ddim gorffen ein taith o gwmpas Cymru heb alw heibio Tref Merthyr sydd yn prysur osod safonau uchel yn Adran Un, o Gynghrair Calor, De a Gorllewin Lloegr . Er bod eu dwy gêm ddiwethaf, y ddwy oddi cartref, wedi eu gohirio oherwydd tywydd drwg, mae tîm y dref ar ben eu cynghrair, a heb golli adref ar eu cae artiffisial.
Gyda chymaint o gemau yma wedi eu gohirio ar hyd a lled Cymru'n ddiweddar, mae dadl gref i'w chynnig ar werth y caeau artiffisial yma. Dydd Sadwrn bydd Merthyr adref i Guildford , tîm sydd , fel gwrthwynebwyr Wrecsam yn ail o waelod y gynghrair.
Digon felly i'ch diddori wrth gefnogi eich timau lleol o gwmpas Cymru ar hyn o bryd a digon i gadw gobaith y bydd llwyddiant a dyrchafiad am ddigwydd os ceir rhediad da ganddynt rhwng rŵan a diwedd y tymor.
Ewch ati i gefnogi’ch tîm lleol.
