Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 28 Ionawr 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Stiwdio - Y Lle Celf

arddangosfa - exhibition

celfyddydau gweledol - visual arts

ffurf - form

gerbron - before

tymheredd - temperature

ceisiadau - applications

gwobr arall - another prize

adlewyrchol - reflective

dadleuol - controversial

detholwyr - compilers

Nia Roberts yn cyflwyno 'Stiwdio' dydd Iau diwetha, ac yn siarad am Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y Lle Celf ydy'r arddangosfa lle mae pob math o gelf yn cael ei ddangos yn ystod yr Wyl. Dyma i chi ran o'r sgwrs rhwng Nia, Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, a'r artistiaid Osi Rhys Osmond a Carwyn Evans...

Manylu - Llanybydder

Pwyliaid - Poles

dim amheuaeth - no doubt

ar wahân i - apart from

niferoedd mawr - large numbers

yn heidio i - flocking to

rhybuddio - to warn

cyfyngu ar - to limit

llafur rhad - cheap labour

ton mawr - a huge wave

sicrhau - to ensure 

"Osi Osmond yn fan'na dweud ei fod o'n artist dadleuol. Bydd hi'n ddiddorol mynd i'r Lle Celf yr haf hwn i weld pa mor ddadleuol ydy'r celf sy'n cael ei ddangos yno eleni. Pwnc dadleuol go wahanol sy gynnon ni nesa. Roedd sôn yn ddiweddar basai llawer iawn o bobl o Fwlgaria a Rwmania yn dod i Brydain i weithio ar ôl Ionawr y cyntaf eleni. Ydy hynnny'n rhywbeth i boeni amdano? Gweithwyr o dramor oedd y pwnc gafodd sylw Manylu yr wythnos diwetha. Aeth y tîm draw i bentre Llanybydder yn sir Gaerfyrddin, lle mae deg y cant o'r bobl sy'n byw yna yn Bwyliaid... "

Sgersli Bilif - Mynwent Tregeian

y diweddar - the late

cofrestr y plwyf - parish register

bedydd a chladdedigaethau - baptisms and burials

cofnodion - records

a genhedlodd - who conceived

cyfanswm - total

dyflwydd - dwy oed

cynhyrchiol - productive

o'i linach - from his stock (ancestry)

heddwch i'w lwch - rest in peace

Tasai pawb sy'n symyd i gefn gwlad Cymru yn siarad Cymraeg cystal ag Olivia fach yn fan'na, fasai ddim rhaid i ni boeni cymaint am ddyfodol yr iaith, na fasai? Cofiwch fasai ddim rhaid i ni boeni o gwbwl tasai siaradwyr Cymraeg yn dilyn esiampl William ap Hywel ap David ap Iorwerth o Dregeian ger Rhosmeirch ar Ynys Môn. Pam felly? Wel, os wnewch chi wrando ar y sgwrs yma rhwng Derec Owen ac Aled Sam ar Sgesli Bilif ddydd Gwener mi gewch chi'r ateb...



Cofio - Santes Dwynwen

cynhyrchydd - producer

awyddus i ddenu - eager to attract

bachau cig - meat hooks

bachu - to pull (a date)

cynulleidfa - audience

ei hanfod hi - the essence of it

lliwgar - colourful

brwdfrydig - enthusiastic

cadw trefn - to keep order

cyw rheolwr llawr - a young floor manager

"Cynhyrchiol? Ddwedwn i! Pedwardeg tri o blant, a dal i fyw tan oedd o'n gant a phump. Anhygoel de? Meddyliwch bod ganddoch chi frawd sydd wythdeg o flynyddoedd yn hyn na chi! Mi fasai'r stori hon ar dudalen flaen y papurau dyddiol tasai hi'n digwydd heddiw, siwr i chi! Gan fod yr hen William yn dod o Ynys Môn tybed oedd gan Santes Dwynwen unrhywbeth i wneud a'i arferion caru? Pwy a wyr ynde? Ond a hithe'n ddiwrnod y Santes y Cariadon ar y pumed ar hugain o Ionawr, roedd yna flas rhamantus ar rifyn dydd Sadwrn o Cofio. Dyma i chi ran o'r sgwrs rhwng John Hardy ac Alwyn Siôn, oedd yn arfer cyflwyno rhaglen deledu o'r enw ' Bacha Hi O Ma' ..."



Ifan Evans - Calon Lân

rhyngwladol - international

wynebu - to face

ymgyrch - campaign

cyffrous - exciting

tynnu'r genedl ynghyd - bring th nation together

mo'yn - eisiau

ffili aros - methu aros 

"Dwn i ddim be fasai Santes Dwynwen wedi ei wneud o 'Bacha Hi O Ma' cofiwch! Wel, mae tymor y gêmau rygbi rhyngwladol wedi cyrraedd, ac mi fydd Cymru'n wynebu yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesa. Falle bod rhai ohonoch chi wedi gweld hysbysebion gan y BBC yn trio cael pobl i ddysgu geiriau Calon Lân, er mwyn iddi hi gael ei chanu yn ystod y gêmau. Mi wnaeth Ifan Evans ei ran yn yr ymgyrch nos Fawrth drwy ganu'r gân, ac mi roedd harmonis reit ddel ganddyn nhw chwarae teg! Dyma nhw ac mae croeso i chi ganu efo nhwwrth gwrs! Pob lwc i Gymru bnawn Sadwrn."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Carfan Academiau Cymru a Cwpan Lloegr

Nesaf

Cipolwg ar dimau Cymru