Main content

Fifa ac Ellis Wynne

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae’r Blog yma eisoes wedi defnyddio Gweledigaethau y Bardd Cwsg fel sail i nodi'r hyn sydd yn digwydd yn y byd pêl droed o bryd i'w gilydd.

Tydi'r wythnos yma ddim yn wahanol, felly gyda phob diolch a phob dyledus barch i Ellis Wynne, dyma sylwadau ar fater syfrdanol yr wythnos yn y byd pel droed wedi eu nodi ar sail arddull campwaith y Bardd Cwsg, a hefyd yn cynnwys nifer o’i ddyfyniadau (rhai wedi eu haddasu) sy’n ymddangos yn hollol berthnasol i faterion cyfoes y gem fyd eang :-

Ar ryw fore-waith teg o ha’ hir felyn chwyslyd, cymerodd swyddogion yr FBI hynt i ben un o brif westai Zurich a chyda hwy llwyth o ddogfennau i weled yr hyn a oedd yn gyfrinachol yn fwy agos ac i ddarganfod yr hyn a fu yn gudd, mwyach yn dystiolaeth.

Wedi porthi ei llygaid i bob cyfeiriad, hwy a benderfynodd arestio nifer o uwch swyddogion FIFA, sef y gymdeithas bel droed byd eang am droseddau honedig yn ymwneud a llwgrwobrwyo a nifer o weithrediadau dan din amheus eraill.

A’r cynta’ peth a welwyd o'r fath gad garlam o ddynion yn eu peisiau gleision yn gwisgo gwerth tyddyn da o berlau o'u hamgylch yn cael eu hebrwng yn ddisymwth i nifer o gerbydau heddlu’r Swistir.

O hir graffu down i ddeall mai dynion teg eu gwedd oedd y rhain ond yn edrych yn ffyrnig eu gwedd wrth regi a chablu eu llwybr i gefn car yr heddlu.

Yn wir meddai rhai, nis gwn i be ydych yn ei wneud yma, na peth yw eich neges, gan mai di euog ydwyf i bob cyhuddiad .

Ond yna, wrth geisio busnesa , mi a gefais fy nhywys gan y cyfryngau syfrdanol i ganol rhyw gastell anferthol , sef Castell Belial y bel droed ble trigai tywysogion llywodraethwyr pêl droed gwledydd yr holl fyd. Tywysog mawr yw hwn a miloedd o dywysogion dano yn ymateb wrth foes ymgrymu i benderfyniadau’r brenin, heb unrhyw wrthwynebiad.

Ond does enw gwell na Chastell Belial ar yr hangle o gastell penagored mawr sydd yn prysur losgi wrth i’w berchnogion ddechrau edifar am beth a fysai lawer gwell ei gael, megis gonestrwydd a pharchusrwydd.

Oes meddai fy nghyfaill a gyrhaeddodd o fyd y cyfryngau. Hi hefyd a elwir y ddinas ddihenydd sydd yn cynnal llu o strydoedd megis Stryd yr Elw, Stryd Pleser a Stryd Balchder. Y tair stryd yma ydi ‘r drindod mae’r aelodau a’r tywysogion yn eu haddoli.

Mae llawer yn trigo yn y strydoedd yma, o bob Iaith, chrefydd a chenedl tan haul a oedd ar fin penderfynu os am gynnal lecsiwn a fyddai yn dangos gallu’r tywysogion i oroesi pob anhap a ddaw i'w plith.

Pwy yw'r rhain sydd yn sefyll am hy swydd, meddwn i? Stiwardiaid, masnachwyr, llogwyr yw'r rhain a’r cyfoethocaf o’r cwbl a’i chai - canys pa cymaint sy gennyt, mwy y cei ac y ceisi, gan mai rhyw ddolur diwala sydd yn perthyn i'r stryd.

Wedi imi weled yr holl oferedd a gwallgofrwydd y byd afreal yma, mi a sylweddolais mai gweledigaeth o uffern oedd ger fy mron. Yno roedd angel teyrnasoedd yr holl fyd yn derbyn gorchmynion efengyl y brenin i gadw ei holl elynion yn fodlon eu byd, boed hyn yn Ewrop, yn Asia, yn Affrica, neu hyd yn oed dros for yr Iwerydd ble cafodd llawer eu pechu'n enfawr.

Ond mwy gennym ni rinwedd cardotyn na mawredd brenin meddai swyddogion yr FBI. Ac yn wir yn ddisymwth fe glywyd o hirbell sŵn arall mwy na’r hyn a glywyd o’r blaen. Clywyd crochleisiau echrys, bon-llefain, gwaeddi, ac ochain cryf a thyngu a rhegi a chablu a wnaed imi gredu fod yna nifer swmpus o ddynion anhapus eu byd yn ofni eu dyfodol wedi iddynt benderfynu trefnu cynnal cystadleuaeth byd eang mewn dull honedig amheus mewn nifer o blastai swmpus ynghanol gwres annioddefol anialwch yn y dwyrain canol o fewn y dyfodol agos.

Atolwg meddwn i - beth felly fydd ffawd y brodyr anffodus yma? Ymddengys mai taith i wlad bell dros for anferth i wynebu eu gwell o bosib fydd o'u blaenau wrth iddynt gael eu cyhuddo o weithredu mam pob drygioni sef yr hyn a elwir pechod, yn erbyn yr holl ddynion bach eu byd a drigai ac a chwarae'r gêm mewn sobrwydd a diniweidrwydd.

Diolch i Ellis Wynne am ei gyfraniad ac am ei weledigaeth. Tydi’r dyn yma wedi gweld cymaint â hynny mor bell yn ôl. Weithiau does dim byd yn newid!!

Amser a dengys beth a ddigwydd!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 03/06/2015