Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 03/06/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Post Cyntaf - Côr Glanaethwy - Rhian Roberts

cerddorol - musical

argraff - impression

y fraint - privilege

cymharu - to compare

mynd o'i le - to go wrong

enfawr - huge

cynulleidfa - audience

nod - aim

pleidlais gyhoeddus - public vote

cynnwrf - excitement

ac mae hi wedi bod yn wythnos o ddathlu talentau cerddorol yma yng Nghymru. Mae'r rhaglen deledu Britain's got Talent wedi profi un peth yn sicr wythnos diwetha; Wales' got talent. Mae Côr Glanaethwy o Fangor wedi creu argraff fawr ar neb llai na Simon Cowell wrth iddyn nhw gystadlu am y fraint o gael perffomio yn y Royal Variety. Mae gan y côr 163 o aelodau, ac felly'n llenwi sawl bws yn ogystal â llwyfan Britain's got Talent! Rhian a Cefin Roberts sy' wedi sefydlu'r côr a Kate Crockett gafodd sgwrs gyda Rhian am y profiad arbennig o gystadlu ar y rhaglen deledu.

Dylan Jones - Côr Glanaethwy - Awen Edwards

anffodus - unfortunate

annisgwyl - unexpected

anlwcus - unlucky

aflwydd - misfortune

drysau - doors

andros - tremendous

gwefreiddiol - sensational

Mi fasech chi'n meddwl bod perfformio ar lwyfan Britain's Got Talent yn ddigon o gynnwrf, yn basech? Yn anffodus, mi wnaeth pedwar aelod o Gôr Glanaethwy gael cynnwrf o'r math arall un bore, a hynny mewn lifft! Dyma Awen Edwards, un o'r aelodau anlwcus, efo'r hanes.

Eisteddfod yr Urdd - Eban a'i ieir

ieuenctid - youth

llefaru - to recite

offerynnau - instruments

bwydo - to feed

cwsmeriaid - customers

wedi'i sgramblo - scrambled

melynwy - yolk

(Backlink canlyniad BGT) ac o lwyfan Britain's got Talent i lwyfan Eisteddfod yr Urdd awn ni nesa'. Yr eisteddfod ydy'r ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop. Canu, llefaru, dawnsio, canu offerynnau ac ysgrifennu ydy'r prif gystadlaethau ac eleni roedd yr eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghaerffili. Nia Lloyd Jones oedd yn sgwrsio gefn llwyfan gyda'r cystadleuwyr, a dyma hi efo Eban Sion Parri o Aberdaron. Ond roedd gan Eban fwy o ddiddordeb mewn siarad am ei naw iâr nac am ei ganu!

Eisteddfod - Tommy Cooper

unawd - solo

alaw werin - folk song

lleoliad - location

digrifwr - comedian

her - challenge

sandalau - sandals

llwglyd - starving

Cnocell y Coed - Woodpecker

...ac mae'n rhaid bod bwyta wyau yn dda at y llais! Mi ddaeth Eban yn drydydd yn y gystadleuaeth unawd alaw werin. Llongyfarchiadau i ti, Eban. Rwan, wrth feddwl am Gaerffili, sef lleoliad yr eisteddfod eleni, mi fydda i'n meddwl am ddau beth; y castell a'r caws. Ond mae Caerffili yn enwog am rywbeth arall hefyd. Roedd y digrifwr Tommy Cooper yn dwad o'r ardal yn wreiddiol, ac i gofio amdano, her Iwan Griffiths ddydd Llun oedd casglu gymaint o jôcs Tommy Cooper ag oedd bosib. Mwynhewch!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Fifa ac Ellis Wynne

Nesaf

Helynt diweddara Fifa