Main content

Helynt diweddara Fifa

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Be nesa ymysg y ffrwst, y ffrost a holl ffrio ffair sy’n digwydd draw yn FIFA ?

Yn y ffilm ‘Donnie Brasco’, mae’r prif gymeriad Joseph D. Pistone, aelod cudd o’r FBI yn mynd ati i geisio chwalu teyrnasiad y Mafia sydd wrthi’n llwgrwobrwyo pobol drwy roi anrhegion iddynt, fel arwydd o ewyllys da a gwerthfawrogiad ‘am eu trafferth’!.

Erbyn heddiw mae digwyddiadau o fewn y byd pêl droed yn edrych fel petai plot y ffilm yn cael ei efelychu wrth i aelodau o’r FBI arestio nifer o uwch swyddogion FIFA am droseddau honedig yn cynnwys gweithrediadau ymwneud a llwgrwobrwyo ymysg eraill.

Ymddengys hefyd fod yna ymchwiliadau pellach i'w cynnal i'r drefn ar sut y penderfynwyd lleoli ffeinals Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018, ac yna yn Qatar yn 2022.

A ninnau yma yng Nghymru yn dechrau meddwl fod gwawr newydd ar fin torri beth petae Cymru yn llwyddo i gyrraedd Qatar, sut fyddai’r cefnogwyr yn llwyddo i gael llety addas mewn gwlad fel yma?

Tybed a fyddai FIFA, os bydd y mudiad yn parhau i fodoli, yn dilyn esiampl yr eisteddfod yma yng Nghymru a gwahodd y cefnogwyr i ddod a’u pebyll a’u gosod yn anialwch gerllaw'r stadia newydd.

 Yn wir, tybed hefyd a fyddai FIFA, wrth geisio creu delwedd newydd yn mynd gam ymhellach drwy efelychu trefn yr eisteddfod, a mynd at i drefnu seremoni gyhoeddi swyddogol yn Qatar ?

Fe allai aelodau o orsedd FIFA, oll yn eu gynnau gwynion ar gyfer yr achlysur, gyfarfod ynghanol y creigiau concrid lle bydd stadiwm newydd yn cael ei adeiladu, gyda’r corn gwlad yn cyhoeddi dyfodiad Cwpan y Byd mewn pedair blynedd! 

Ond cyn imi fod yn rhy hunan gyfiawn a mynd dros ben llestri ynglŷn â stŵr a honiadau llwgrwobrwyo, rhaid i minnau, ar ôl blynyddoedd o boendod meddwl ymysg pechod ac euogrwydd, gyffesu fy mod wedi cael fy llwgrwobrwyo, a hynny ar adeg pan oeddwn yn hyfforddi tîm pêl droed ysgolion Sir y Fflint.

Derbyniais ‘anrheg am fy nhrafferth, nid mewn câs lledr moethus, ond mewn bag papur brown a roddwyd i mi fel arwydd o ewyllys da a gwerthfawrogiad o ddiolchgarwch gan sgowt o un o glybiau mwyaf pêl droed Lloegr, a hynny am roi gwybodaeth iddo am chwaraewr ifanc a oedd yn fy nhîm. .

Yn y bag papur brown roedd hanner dwsin o wyau ffres, yn arbennig i mi - ‘ am eich trafferth!’, ac roedd y cyfaill wrth ei fodd o gael dod i wybod mwy am ryw chwaraewyr ifanc addawol a oedd yn chwarae mewn gem gystadleuol! 

W’n i ddim os oedd uwch swyddogion FIFA, y Mafia neu unrhyw fudiad arall, wedi clywed am y weithred yma i ddangos eu gwerthfawrogiad i mi ‘ am fy nhrafferth’ a minnau yn euog wrth dderbyn hanner dwsin o wyau.

Ond, os fydd yna angen tystiolaeth ar unrhyw Gymdeithas bel droed, yr FBI, neu'r cyfryngau fod hyn wedi digwydd, a fy mod am gael fy niarddel o’r byd pel droed, yna rhaid hefyd cyfaddef fod y dystiolaeth wedi cael ei fwyta dros ddeugain mlynedd yn ôl.

 Fodd bynnag mae’n ymddangos fod yna bobol yn FIFA wedi cael eu gadael gydag ôl wy go fawr ar eu hwynebau hwy am beth amser! Cawn weld beth a ddigwydd nesaf!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 03/06/2015

Nesaf