Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Mehefin 9, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Dylan Jones - Simon Naylor - Everest



daeargryn - earthquake

anafu - to injure

ffodus - fortunately

diogel - safe

dychryn - to be frightened

profiad - experience

metrau - meters

llwyth - load

brig - top

copa - peak

...Simon Naylor oedd gwestai Dylan Jones fore Mawrth. Yn ôl ym mis Ebrill roedd Simon yn dringo i fyny mynydd Everest pan ddigwyddodd y daeargryn yn Nepal. Cafodd bron i 9,000 o bobl eu lladd a mwy na 23,000 o bobl eu hanafu gan y daeargryn. Yn ffodus iawn, daeth Simon adref o Nepal yn ddiogel ond wedi'i ddychryn yn fawr gan y profiad.

Bore Cothi - Patagonia

erchyll - horrible

agwedd - attitude

rhyfeddol - amazing

mudo - to migrate

sefydlu - to establish

Band Pres - Brass Band

cyfansoddi - to compose

emynau - hymns

asiad - fusion

yn arw iawn - immensely

Simon Naylor yn fan 'na yn siarad am ei brofiad erchyll yn Nepal ond hefyd am agwedd ryfeddol y bobl yno at fywyd. O Nepal i Batagonia yr awn ni nesa'. Cant a hanner o flynyddoedd yn ôl hwyliodd cant a hanner o Gymry i Batagonia. Yn ystod y blynyddoedd nesa', mudodd cannoedd o Gymry i Batagonia gan sefydlu Y Wladfa. Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia yn gryf hyd heddiw, a fore Mawrth cafodd Gwyn Evans o Fand Pres Biwmares sgwrs gyda Shan Cothi. Testun y sgwrs oedd darn arbennig o gerddoriaeth mae o wedi'i gyfansoddi i ddathlu hanes y Cymry cyntaf aeth i Batagonia. Dyma Gwyn i egluro'r gerddoriaeth.

Dylan Jones - Songs of Praise - Cwpan FA

perfformiad - performance

yn ddiweddar - recently

cefnogwr - supporter

cynrychioli - to represent

terfynol - final

cymeradwyaeth - applause

canolbwyntio - to concentrate

darnau - pieces

cyfartal - draw

Dyna glip bach i chi o Fand Ieuenctid Bimares yn perfformio'r darn 'Patagonia' gan Gwyn Evans. Hyfryd, ynde? Rhywun arall sy wedi canu mewn perfformiad arbennig yn ddiweddar ydy Merfyn Griffiths, cefnogwr tim pêl-droed Wrecsam wnaeth gael ei ddewis i gynrychioli'r clwb yng nghôr Songs of Praise y BBC. Mi wnaeth y côr ganu ar ddechrau gêm derfynol Cwpan yr FA yn Wembley yn ddiweddar gyda neb llai na'r canwr Alfie Boe yn eu harwain. Dylan Jones gafodd sgwrs gyda Merfyn am y profiad.

Bore Cothi - Welsh Heartlans: The Llyn Peninsula

dennu - to attract

ymwelwyr - visitors

cyfres - series

cynhyrchydd - producer

dulliau - methods

clustfeinio - eavesdropping

o bell - from afar

argraffiadau - impressions

golygu - to edit

gwallgo' - mad, insane

Dan ni'n lwcus iawn yma yng Nghymru, yn tydan? Môr, mynyddoedd a chefn gwlad sy'n dennu miloedd o ymwelwyr yma bob blwyddyn. Cyfres deledu arbennig sy'n dilyn pobl ac ymlwelwyr i Ben Llýn yng ngogledd orllewin Cymru ydy 'Welsh Heartland: The Llyn Peninsula', a fore Llun cafodd Shan Cothi sgwrs gyda chynhyrchydd y gyfres, Mari Parri Jones. Dyma Mari yn siarad am y dulliau gwahanol wnaethon nhw ddefnyddio wrth ffilmio'r gyfres.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Helynt diweddara Fifa

Nesaf

Cyhoeddi Cyflwynydd Newydd Camp Lawn