Main content

Cyhoeddi Cyflwynydd Newydd Camp Lawn

Newyddion

Cyhoeddwyd ar raglen Dylan Jones bore ‘ma (Gwener, Mehefin 12) mai Rhodri Llywelyn fydd cyflwynydd newydd rhaglen chwaraeon BBC Radio Cymru ar brynhawn Sadwrn, Camp Lawn, o fis Medi ymlaen. Bydd Rhodri yn cymryd yr awenau yng nghanol cyfnod cyffrous ar y meysydd chwarae, gan gynnwys gemau rhagbrofol olaf Cymru ar gyfer Ewro 2016 ac, wrth gwrs, Cwpan Rygbi’r Byd.

Ymunodd Rhodri â’r BBC yn 2004 ac mae wedi cyflwyno, gohebu a sylwebu ar Newyddion 9, Post Cyntaf a’r Clwb Rygbi, yn ogystal ag ambell dro yn y gadair eisoes ar Camp Lawn.

“Mi fydd y tymor nesa’n llafur cariad llwyr,” meddai Rhodri. “Cyflwyno Camp Lawn yw’r peth agosa’ posib at fod mas ar y cae yn chwarae - mae’n gwneud i’r adrenalin lifo, ac fe all unrhywbeth ddigwydd!

“Dwi’n cofio’r tro cynta i mi gael cyfle i fod yn y sedd. Roedd Caerdydd yn chwarae yn yr Uwch-Gynghrair bryd hynny, a Lerpwl yn ymweld â’r brifddinas. Mi adewais i’r stadiwm wedi cael cymaint o wefr - y galon yn dal i rasio - ac yn dymuno cael tro arall arni’n fuan.

Wedi ei fagu yng Nghaerdydd cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Bryste, treuliodd Rhodri bum mlynedd ar ôl graddio yn gweithio gyda chwmni Tinopolis ar gynhyrchiadau fel Heno a Le Rygbi. Mae’n dweud bod chwaraeon wedi bod yn rhan mawr o’i fywyd erioed.

“Ro’n i wastad yn gwylio chwaraeon neu’n chwarae pan yn grwt. Byddai pêl wastad wrth law. Bues i’n ddigon ffodus i gwblhau’r ‘dwbl’ o chwarae rygbi yn yr hen Stadiwm Genedlaethol a Stadiwm y Mileniwm. Ond ar ôl cael fy mhenodi’n Ohebydd Chwaraeon gyda Newyddion BBC Cymru bu’n rhaid rhoi’r ‘togs’ yn y tô.

“Aeth y swydd honno a mi o gwmpas y byd yn dilyn y campau - Gemau Olympaidd Beijing a Llundain; Y Cwpan Ryder yn Valhalla a Celtic Manor; gornestau mawr Joe Calzaghe yn America; a Chwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc a Seland Newydd.”

Bydd Rhodri yn parhau i gyflwyno a gohebu ar Newyddion 9 yn ystod yr wythnos, tra’n cyflwyno Camp Lawn ar ddyddiau Sadwrn. Wrth edrych ymlaen at y tymor cyffrous o’i flaen, talodd Rhodri deyrnged hefyd i Eleri Sion, a roddodd gorau i’r swydd ar ddiwedd y tymor diwethaf.

“Dwi’n llwyr sylweddoli bod stilettos Eleri Siôn yn rhai mawr i’w llenwi! Er hynny, galla i ddim aros i ymuno â thîm cystal, ar drothwy tymor sy’ mor bwysig.

“Mi fydd yn dechrau gydag ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Ac yn dod i ben gyda phêl-droedwyr Cymru’n chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2016. Gobeithio...”





Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cymru v Gwlad Belg - y fuddugoliaeth!