Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Mai 26, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dylan Jones - Byw Nawr

marwolaeth - death

amau - to suspect

archwiliad - examination

cael gwared ohono - get rid of it

rhagorol - excellent

y driniaeth - the treatment

chwistrelliad - injection

nadu - to stop

datblygu cyffuriau - developing drugs

llawdriniaeth - surgery

..buodd Dylan Jones yn rhoi sylw i wythnos Byw Nawr, neu Dying Matters yn Saesneg, ar ei raglen ddydd Mercher diwetha. Y syniad oedd cael pobl i siarad am farwolaeth a sut i baratoi amdano fo. Dyna yn union oedd rhaid i Gerallt Llewelyn ei wneud. Ffotograffydd chwedeg saith oed o Garmel ger Caernarfon ydy Gerallt, a mis Mawrth eleni, mi gafodd o wybod fod ganddo fo gancr y prostad. Yn anffodus doedd yna ddim gwella i fod, a dyma Gerallt yn sôn wrth Dylan Jones am sut mae o wedi delio efo'r sefyllfa...

John Walter - Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Prif Weithredwr - Chief Executive

sylfaenydd - founder

hinsawdd - climate

drwy gyfrwng - through the medium

cyfnod maith - a vast period

dylanwadu - to influence

Llywydd Anrhydeddus - Honorary President

cenadwri - mission

yr holl dystiolaeth - all of the evidence

yn flaengar - innovative

Gerallt Llewelyn yn fan'na yn sôn wrth Dylan Jones sut mae o wedi delio efo'r newyddion ofnadwy bod cancr y prostad arno fo. Yr wythnos hon wrth gwrs mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yng Nghaerffili. Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, oedd gwestai John Walter yr wythnos diwethaf. Soniodd John wrthi hi bod Syr Ifan ap Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, wedi dweud ym Mil Naw Dau Dau bod rhaid gwneud rhywbeth i blant a phobl ifanc er mwyn cadw'r Gymraeg yn fyw. Ydy hyn dal yn wir tybed? Dyna oedd cwestiwn John i Efa...

Stiwdio - Gwyl y Gelli

Gwyl y Gelli - Hay Festival

rhyngwladol - international

stori fer - short story

tebygrwydd - similarity

gaeafu - to spend winter

defod - ritual

y dynfa - the draw(of a place)

cyfeillgarwch - friendship

darganfod - to discover

dihangfa - an escape

Llais Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones oeddech chi'n ei glywed yn fan'na, yn sôn wrth John Walter am bwysigrwydd yr Urdd i bobl ifanc Cymru y dyddiau hyn. Gwyl bwysig iawn arall yng Nghymru ydy Gwyl y Gelli. Er nad ydy hi'n wyl Gymraeg mae awduron Cymraeg yn cael cyfle yno i siarad am eu gwaith. Un o'r rheini ydy Llyr Gwyn Lewis, o Gaernarfon yn wreiddiol, a dyma fo'n esbonio wrth Nia Roberts be yn union bydd o’n ei wneud yn yr Wyl...

Dylan jones - Cymru Fyw

adnabyddus - famous

myfyrio - to ponder

yn gysylltiedig - connected

cyfres o erthyglau - a series of articles

cyfeirio at - refer to

Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National Trust

dim dwywaith - no two ways

Eryri - Snowdonia

ymwybodol - aware

sbardun - catalyst

Yr awdur Llyr Gwyn Lewis yn sgwrio efo Nia Roberts am yr holl wyliau y bydd yn cymryd rhan ynddyn nhw eleni. Sgynnoch chi hoff le yng Nghymru? I mi does unman i guro (Llanberis?). Be am gymryd rhan ym mhrosiect newydd gwefan Gymraeg y BBC, Cymru Fyw, a rhannu eich hoff le efo pawb sy'n darllen y wefan. Dyma Kevin Davies ar raglen Dylan Jones ddydd Iau yn rhoi mwy o fanylion am y prosiect...

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Paratoi ar gyfer Ewrop

Nesaf

Fifa ac Ellis Wynne