Main content

Blog Ar y Marc: Twyllo

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae’r cyffro yn parhau - felly hefyd y dadlau.

Na dwi ddim am ymhelaethu am Luis Suarez, mae na ddigon wedi cael ei ddweud am y digwyddiad yna.

Fodd bynnag y person diweddaraf, ar ôl y gemau Sadwrn a’r Sul diwethaf i gael ei gyhuddo o dwyllo ydi Arjen Robben o'r Iseldiroedd. Cyhuddiad o syrthio ac ennill cic o’r smotyn , gan sicrhau buddugoliaeth dros Fecsico yn eiliadau olaf y gêm.

Tydi Robben ddim heb ei feirniaid dros y blynyddoedd, ond tybed a oedd y gwymp yma yn un ddilys a’i peidio?

Fe gafodd Robben ei faglu’n glir yn y cwrt cosbi yn gynharach yn y gem , ond gwrthododd y Dyfarnwr ei brotestiadau.

Yna gydag amser ychwanegol ar y gorwel, ymestynnodd amddiffynnwr Mecsico, Rafael Marques, ei goes allan( oherwydd blinder efallai?) yn gwahodd Robben i ddisgyn drosti ! A dyna ddigwyddodd. Cic o’r smotyn neu ddim; blinder yn creu bagliad, anffawd neu rhwystr annerbyniol yn cael ei gydnabod ?

Ceir llawer o feirniadaeth gan sylwebwyr fel petai twyllo erioed wedi digwydd o'r blaen. Sawl blwyddyn yn ôl tra ar fy nheithiau hyfforddi yn yr Unol Dalaethau, fe wnes i ddod i adnabod llawer o chwaraewr addawol, ifanc. Roedd criw ohonynt, o dalaith Connecticut wedi bod ar wers bêl droed preswyl yng Ngholumbia ar un adeg.

Trin y bel yn gywrain oedd prif nod y cwrs ond fe gyflwynwyd agwedd arall fel rhan ffurfiol o’r cwrs, sef sut i dwyllo!

Roedd hi’n anodd credu'r fath beth!

Ond fe alla’i eich sicrhau chi mai dyna ddigwyddodd.

Anodd ydi disgrifio, mewn colofn ysgrifenedig , yr hun a ddangoswyd. Ond mewn sefyllfaoedd cyfyng, gyda chwaraewyr ysgwydd yn ysgwydd yn y cwrt cosbi, cyn ciciau cosb neu giciau cornel, dangoswyd imi sut i afael a thynnu ar wrthwynebwyr er mwyn ennill ciciau rhydd, neu gic o'r smotyn hyd yn oed. Dangoswyd hefyd sut i redeg ysgwydd yn ysgwydd wrth ochr gwrthwynebwr ar gyflymder gan siglo braich a tharo'r chwaraewr arall mewn man tyner a’i anfon i'r llawr fel sach o datws.

Ie, peidiwch â meddwl mai rhywbeth newydd ydi twyllo, mae o wedi bod o gwmpas erioed. 

Gwyliwch y goliau !

Hwyrach hefyd bydd yn werth ichi wylio'r twyllo yn ogystal!

Digon i edrych ymlaen amdano am wythnos arall!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf