Main content

Blog Ar y Marc: Gadael Fawlty Towers a hedfan i Manaus

Dylan Llewelyn

Blogiwr Ar y Marc

Rydan ni wedi cyrraedd Manaus ar ôl taith pedair awr a thair mil o gilometrau. Glaniodd yr awyren yng nghanol yr Amazon bum munud yn gynnar.

Er gwaetha'r adroddiadau diddiwedd am ddiffyg trefn a diffyg cyfraith a threfn a gawsom ers misoedd yn y wasg Seisnig, rhaid dweud fod ein profiadau ni o baratoadau Cwpan y Byd wedi bod yn benigamp. Er mawr siom i senaffobia tragwyddol y Sun, y Daily Mail a'u tebyg, llwyddodd ein trenau, tacsis, bysus ac awyrennau i redeg yn brydlon, yn lân, yn ddiogel ac yn effeithiol. Yr unig oedi hyd yma oedd hwnnw gawsom tra'n gadael Heathrow ym Mhrydain berffaith bell!

Llwyddais i gamu ar yr awyren anghywir wrth deithio o Sao Paulo i Rio ond cafodd hynny ei sortio'n syth bin pan sylweddolodd y stiward fod yna ddim modd i ddau berson rannu'r un sedd!

Roedd siwrne hanner awr a mwy ar y Metro rhwng canol Sao Paulo a'r stadiwm ar gyrion yr horwth o ddinas goncrid yn costio 3 real, sef llai na phunt, tra bo teithio Metro Rio o'r Copacabana i'r Maracana yn rhad ac am ddim ar ddiwrnod gêm i'r rheiny oedd berchen ar docyn. Triwch chi deithio i Wembley o ganol Llundain ar amser ac am lai na phunt cyn dechrau dilorni ymdrechion eraill!

Ac eithrio ffrae am union faint fy Nraig Goch yn Curitiba, mae'r stadiymau wedi bod yn sbot on hefyd, ac yn bwysicach fyth, gyda stiwardio synhwyrol a chlên.

Ac yn bwysicach fyth, mae tirgolion pob bwyty, bar a gwesty ym mhob dinas wedi bod yn hynod groesawgar. Hyd yma! Do, fe geisiodd staff ein gwesty yn Rio eu gora glas a melyn i wylltio pob cenedl dan haul gyda'u anallu anhygoel ond doedd o ddim yn faleisus nac yn ragfarn yn erbyn unrhyw genedl. Gwelais gefnogwyr Bosnia, Ffrainc, Lloegr, Siapan a Mecsico yn cyfri i ddim mewn sawl iaith yng nghyntedd yr Atlantico Rio. Fydd hi werth chweil darllen adborth Trip Advisor ar ôl cyrraedd gartre!

Oriel Dylan Llewelyn yng Nghwpan y Byd - Brasil

Yn wir, daeth unig ddrwgdeimlad y daith hyd yma yn sgîl ymddygiad slei un o'm cyd-deithiwr wrth i ni baratoi i adael Fawlty Towers i hedfan i Manaus.

Na i ddim ei enwi o (er mod i'n fodlon dweud mai nid Rhys oedd o!) ond ers dechrau'r daith rydym wedi bod yn ceisio tynnu lluniau gyda cefnogwr o bob un o'r 32 o wledydd sydd yn cystadlu yma. Y ddau amod oedd fod nhw 'n mynd i gêm ac eu bod yn gwisgo dilledyn swyddogol. Roedd rhai gwledydd yn haws na'u gilydd wrth reswm, ond wrth i 'r gemau rownd gyntaf ddirwyn i ben roedd hi am fod yn anodd cael rhai o'r timau Affricanaidd.

Yn gwbl annisgwyl, llwyddom i gael rhywun o Cote D'Ivoire yn hwyr iawn un noson yn Sao Paulo. Nid cefnogwr m'ohono oedd aelod o fwrdd Cymdeithas Bêl-droed y wlad oedd ar ei draed yn lladd amser tan i'r garfan adael y gwesty am y maes awyr am dri o'r gloch ar fore eu gêm yn erbyn y Groeg yn Fortazela.

Llwyddodd Rhys a'r llall i dynnu llun gyda chefnogwr Camerŵn yng nghanol y can mil ymgasglodd yn Fan-Fest FIFA ar draeth y Copacabana. Fedra'i ddim cwyno am hynny gan mod i wedi dewis aros yn ein hystafell gwely yn diodde o anwyd a dolur gwddw annifyr.

Ond bore ma, tra bo Rhys a minnau yn disgwyl amdano eto yng nghyntedd y gwesty, a ninnau eisioes yn hwyr ar ôl siopio am fflipfflops i anwyliaid adra, daeth Gwilym allan o'r lifft gyda gwên lydan a llun ar ei ffôn o fo a Felix o Ghana i gwblhau ei fersiwn Panini answyddogol. Damia!

Roedd o wedi cwrdd a Felix yn y lifft ac wedi perswadio hwnnw i fynd yn ôl i'w stafell i roi crys swyddogol Ghana ymlaen yn ddiarwybod i ni. Gwilym 1 Moesoldeb 0. Basa FIFA yn falch iawn ohono!

Mae hyn wedi creu tensiwn amlwg yn y teulu teithio. Yn wir, bu'n rhaid cael rhesi gwahanol ar yr awyren i Manaus. Ond be mae Gwilym wedi anghofio yw mai ar gamera Rhys y tynnwyd lluniau'r ddau gyda'r gŵr o Gamerŵn. Mae fy mhrês i ar droad hwyr yn y gynffon!

Oriel Luniau Dylan Llywelyn yng Nghwpan y Byd.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pererindod Panelydd Ar y Marc i'r Maracana

Nesaf

Blog Ar y Marc: Twyllo