Roedd Curitiba a Sao Paulo yn ddinasoedd lliwgar a phrysur, ond roedden nhw fel Carno o'u cymharu â Rio de Janeiro.
Falle fod trefnwyr Cwpan y Byd wedi penderfynu defnyddio 12 dinas ledled y wlad anferthol hon , y bumed mwya’ yn y byd, ond mae Rio yn rhagori ar bob lefel. Mae'r Cidade Marvilhosa, neu'r ddinas anhygoel, yn brysur unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond am y mis yma mae'r lle yn gwbl nyts ac yn sicr yn ormod i alluoedd staff ein gwesty ni. Ac i finnau hefyd a deud gwir.

Dylan Llewelyn yn Rio
Mae Rio fel dinas ddelfrydol Deudaswn gyda phopeth ar raddfa eithafol yma. O'r ciw 4 awr a hanner i fynd i weld cofgolofn fyd-enwog Cristo Redontor, i'r pentwr o gigoedd amrywiol gaiff eu gosod ar eich plât yn y churrascarias poblogaidd. O leiaf roedd y bwyd yn flasus tu hwnt. Doedd cyrraedd crib y Corcovado mewn niwl trwchus a hithau'n prysur nosi ddim yn un o uchafbwyntiau'r daith hyd yma. Falle i'r ffaith fy mod wedi ymweld â Rio ddwywaith o'r blaen siapio fy marn. Ar y llaw arall falle mod i ddim ond yn trio cyfleu nad yw mis ym Mrasil yn fel i gyd!!!
Dwi'n eithaf sicr fod mwyafrif llethol yr ymwelwyr sydd wedi heidio i Frasil yn eu miloedd - mae 'na dros 70000 mil o Chile yma yn unig - yn defnyddio Rio de Janeirio fel eu prif ganolfan gan hedfan mewn ac allan i ddinasoedd eraill pan fo angen. Bosniaid oedd yn llenwi'n gwesty ni ar ein diwrnod cyntaf, cyn i'r Rwsiaid lanio. Maen nhw wedi symud ymlaen i ddangos eu cyfoeth rhywle arall bellach, gan adael lle i gyfuniad o Ffrancwyr, Colombiaid a Mecsicanwyr. Roedd yna ddwy ferch o Burma a thri gŵr o Ghana yn cael brecwast yma bore 'ma. Cyffro, lliw a chiwio.

Y Maracana
Does yna ddim prinder atyniadau yn Rio de Janeiro, ac mae'n siŵr fod ymweld â'r Maracana bron fel pererindod pob cefnogwr pêl-droed go iawn.
Ac ychydig o newyddion ecscliwsif i chi. Ddydd Sul enillodd Cymru ein gem gyntaf yn ffeinals Cwpan y Byd ers 56 o flynyddoedd hesp. Ac am fuddugoliaeth! Cymru 1 Rwsia 0 oedd hi yn y Maracana gyda'm cyd-deithiwr Rhys yn taro'r ergyd fuddugol bwysig dros y gwledydd bychain.
Roedd o wedi gosod ei Ddraig Goch tu ôl i un o'r goliau, ond yn union fel polisi tramor presennol Putin, penderfynodd 15 o Rwsiaid mawr fod ganddyn nhw hawl gosod eu baner nhw dros un Rhys. Yn ychwanegol, penderfynodd y criw fod ganddyn nhw hawl sefyll ym mlaen yr eisteddle gan ddifetha golygfa'r rhai oedd efo tocynnau yn y rhesi blaen.
Dyw e ddim yn hawdd taclo'r Rwsiaid, boed yn ddiplomataidd neu mewn eisteddle pêl-droed. Maen nhw'n ddiawliaid mawr yn un peth ac fel mae giamocs y Crimea wedi ei ddangos, tydi nhw'n malio dim ân farn ryngwladol.
Ond y tro hwn bu i gyfuniad o Gymro, Brasiliaid, Belgiaid a chwpl o Bolifia dynnu sylw'r stiwardiaid a bu rhaid i'r Rwsiaid ildio a symud eu baner a'u hunain i ddarn oedd wedi ei glustnodi ar eu cyfer.
Ac am y tro cyntaf yn ein 'gyrfaoedd' pêl-droed bu i ni gefnogi Gwlad Belg. Ac er i gêm wael fygwth gem ddi-sgor arall. Melys iawn oedd gweld y Rwsiaid yn teithio nôl am y Copacabana ac Ipanema yn waglaw.

Oriel Dylan Llewelyn yng Nghwpan y Byd - Brasil
Braf oedd cwrdd â Chymru eraill yn y stadiwm hefyd. Roedd yn dri chriw o Gaerdydd yna, ac roedd Perry o Bencader, Deio o Lanllyfni a'u ffrind cysglyd wedi hedfan ben bore o Belo Horizonte ar ôl noson ddigwsg a di-westy yn tancio tequilas, cyn brysio o'r Maracana i ddal ffleit arall i Sao Paulo.
Da ni hanner ffordd drwy'n taith bellach. Manaus a'r Amazon sydd nesa i'r Cymry crwydrol - mosgitos rif y gwlith mewn lle sydd yn mynd yn boethach ar ôl i'r haul fachlud yn ôl pob son, a lle fydd yn cynnal y 'rumble in the jungle' enfawr rhwng Honduras a'r Swistir. Fydd hi'n braf ar ôl rialtwch Rio de Janeiro. Ond be goblyn ydan ni am wneud heb yr ocsigen y byd modern, sef Wi-fi!
Oriel Luniau Dylan Llywelyn yng Nghwpan y Byd.
