Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Mehefin 24, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dylan Jones - Paxman

gwleidyddion - politicians

gwahoddiad - invitation

codi ofn - to make afraid

rhywsut neu'i gilydd - somehow or other

cynhyrchydd - producer

difaru - to regret

dychmygu - to imagine

ymddangos - appearing

perthynas - relationship

yn gyfrifol am - responsible for

...mae Jeremy Paxman wedi cyflwyno ei raglen "Newsnight" olaf. Nos Fercher diwetha oedd hynny ac mae'n debyg bydd llawer o wleidyddion yn medru ymlacio rwan! Mi fuodd Sioned Morris o Lanystymdwy yn gweithio ar y rhaglen flynyddoedd yn ôl, ac mi wnaeth y dyn ei hun ofyn iddi hi gael diod efo fo yn y bar ar ôl y rhaglen. Be oedd ymateb Sioned tybed? Dyma hi'n dweud yr hanes wrth Dylan Jones ddydd Mercher..

Dylan Jones - Bidi Griffiths

Rhyfel Byd Cyntaf - First World War

dyddiadurion - diaries

milwr - soldier

yn dost - yn sâl

argraff fawr - a big impression

ymuno - to join

y fyddin - the army

wedi cael eu clwyfo - was injured

archifydd - archivist

cadarnhâd - confirmation

Dw i'n siwr bod Sioned wedi gwneud y penderfyniad cywir, ond 'sgwn i fydd hi'n difaru yn y dyfodol? Dan i'n mynd i aros efo rhaglen Dylan Jones am y clip nesa. Mi fuodd yna nifer fawr o eitemau am y Rhyfel Byd Cynta ar raglen Dylan gydol yr wythnos. Dydd Mawrth mi glywon ni ymateb Bidi Griffiths i rai o’r eitemau yma, a diddorol iawn oedd clywed Bidi yn sôn am ddyddiaduron ei thad, oedd yn filwr yn Galipoli ym Mil Naw Un Pump. Dyma i chi flas ar y sgwrs...



Geraint Lloyd - Dysgwyr Dyffryn Clwyd

bodoli - to exist

pwyllgor - committee

gweithgareddau - activities

amrywio - to vary

aelodau - members

cefnogaeth - support

datblygu - to develop

gwerthfawrogi - to appreciate

dros y ffin - over the border (England)

trawsdoriad - cross-section

Bidi Griffiths yn fan'na yn siarad efo Dylan Jones am ddyddiaduron ei thad o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Apêl sy ganddon ni nesa, gan Manon Williams, sydd yn diwtor Cymraeg yn Nyffryn Clwyd. Mi glywon ni ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth bod dysgwyr y dyffryn yn andros o brysur, ond bod angen un peth bach arnyn nhw i wella'u Cymraeg. Be ydy hwnnw tybed?



Nos Fawrth - Kaikrea

cerddorion - musicians

alawon traddodiadaol - traditional tunes

cerddoriaeth werin - folk music

cefndir - background

yn achlysurol - occasionally

yn llwyr - totally

plethu - to blend

sail - foundation

curiad - beat

mentro mewn - to venture into

Manon Williams yn sgwrsio am waith Cymdeithas Dysgwyr Dyffryn Clwyd efo Geraint Lloyd a gobeithio, ynde, bydd llawer iawn o siaradwyr Cymraeg yn cynnig helpu. Dan ni'n mynd i orffen efo band newydd sbon - ‘Kaikrea’. Aelodau'r band ydy Sam Humphries, Angharad Jenkins, Kizzy Crawford ac Eifion Llywelyn. Mae tri ohonyn nhw wedi bod yn perfformio efo'r band Calan, ac mae Kizzie wedi gwneud enw i'w hunan mewn perfformiadau ar hyd a lled Cymru. Mae na rywbeth reit wahanol am eu mwisig fel yr eglurodd Angharad a Sion ar raglen Lisa Gwilym. Ar ôl gwrando ar y sgwrs gewch chi glywed trac gan y band. Sgwn i be fyddwch chi'n feddwl ohono fo?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymru, Cape Verde, Celeste a Lionel Richie

Nesaf

Pererindod Panelydd Ar y Marc i'r Maracana