Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Gorffennaf 1, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Talwrn y Beirdd - Crannog v Aberhafren

cerdd gaeth - a strict metre poem

crynodeb bachog - an incisive summary

hunangofiant Duw - God's autobiography

datguddio - to reveal

adnodau - verses

addurn - adornment

y cloriau - the covers

broliant - blurb

uchafbwyntiau - highpoints

at ddibenion gwahanol - for different purposes

...y gystadleuaeth fawr - dau dîm arbennig o dda, wedi bod yn paratoi am y foment hon ers tro byd, y cefnogwyr yn barod amdani ac wrth gwrs y BBC yno i recordio pob eiliad. Na nid Cwpan y Byd sydd ganddon ni i chi, ond Talwrn y Beirdd rhwng Tîm Crannog a Thîm Aberhafren. Gobeithio na fydd neb yn dilyn esiampl Luis Suarez ynde ac yn brathu aelod o'r tîm arall!!! Mwynhwech y gystadleuaeth...

Rhaglen Caryl Parry Jones - Straeon

pibydd brith - pied piper

arswydus - shocking

llawysgrifau - manuscripts

tynged - fate

chwedl - fable

cysylltiad efo'r pla - conection with the plague

hud a lledrith - magic

cofnod o gymdeithas - a record of the society

gorymdeithio - marching

talaith - state

Naw i Wyth - chewch chi ddim sgôr fel'na yn y pêl-droed na chewch? Oeddech chi'n cytuno efo'r reff...mae'n ddrwg gen i - y Meuryn? Roedd y ddau dîm yn dda iawn, doedden nhw? Oedd yna ambell i stori'n codi ofn arnoch chi pan oeddech chi'n blentyn? Mae straeon fel y Pibydd Brith yn eitha arswydus tydyn nhw? Dyna oedd Caryl Parry Jones yn ei drafod efo Maldwyn Thomas, Menna Wyn a Mair Tomos Ifans ddydd Mawrth diwetha. Dyma i chi flas ar y sgwrs...



Y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig - Buddug Verona James

asgwrn - bone

cerddorfa - orchestra

cigydd - butcher

profiad - experience

addasu - to adapt

cyd-fynd efo - to blend with

ymdrech - effort

canu'n gynnil - understated singing

Wel dyna stori arswydus am yr asgwrn, ac wrth ymyl Llanberis o bob man! Symudwn ni at rywbeth ysgafnach rwan. Nos Lun buodd Sian Parri Huws yn siarad efo’r gantores Buddug Verona James am ei phrofiad yn cystadlu ac yn ennill y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn ôl ym Mil Naw Wyth Pump. Ar ôl i chi glywed rhan o'r sgwrs be am glywed clip bach o Buddug yn canu?

Rhaglen Annibyniaeth - Yr Alban

annibyniaeth - independence

hanfodol - essential

goroesi - to survive

ffynnu - to thrive

y rhai sy fwya croch - the most vociferous ones

datganoli - devolution

fy nheimlad greddfol i - my instinctive feeling

yn fwy bregus - weaker

ymgyrch - campaign

arbrawf - experiment

Da ynde, llais hyfryd Buddug Verona James yn fan'na.Ydach chi wedi bod yn gwrando ar raglenni Gwion Lewis ar annibyniaeth? Ew, mae nhw wedi bod yn rhai difyr. Yr wythnos hon mi roedd o'n canolbwyntio ar yr Alban ac yn cael barn yr arbenigwr gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones yn ogystal â barn rhai o'r Cymry sy'n byw yn yr Alban. Sut byddan nhw'n pleidleisio yn y refferendwm fis Medi tybed?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar y Marc: Twyllo

Nesaf