Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Gorffennaf 25ain - 29ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Gaynor Davies - Rhydian Roberts

rhoi poen - administrating pain

cleifion - patients

cymeriad - character

sioe gerdd - musical

cyflwyno - presenting

digon o sbri - lots of fun

gwallt golau - fair hair

go dywyll - quite dark

addas - suitable

ar yr un pryd - at the same time

...stori am ddeintydd sydd yn hoff iawn o roi poen i'w gleifion. Ond peidiwch â phoeni nid deintydd go iawn ydy hwn ond y cymeriad mae'r canwr Rhidian Roberts yn ei chwarae yn y sioe gerdd 'Little Shop of Horrors'. Gaynor Davies oedd yn cyflwyno rhaglenni'r bore yn lle Aled Hughes wythnos diwetha a bore Mercher mi gafodd hi sgwrs efo Rhydian am y sioe...



Geraint Lloyd - hen geir

casglu - collecting

casgliad difyr - an interesting collection

hen geir - vintage cars

hen beiriannau - vintage machines

torri gwair - cutting the lawn

cyfarwyddo - get used to it

llywodraeth - government

ty gwair - hay loft

mewn cyflwr da - in good condition

to meddal - soft roof

"Rhydian Roberts oedd hwnna yn siarad efo Gaynor Davies am y sioe gerdd 'Little Shop of Horrors'. Mae John Williams yn casglu hen geir a hen beiriannau, a nos Iau aeth Geraint Lloyd draw ato fo i weld y casgliad difyr sy ganddo. Dyma i chi flas ar y sgwrs lle mae John yn disgrifio rhai o'r ceir mae o wedi eu casglu..."



Post Cyntaf - Dysgwr y Flwyddyn

y rownd derfynol - the final

perthynas - relationship

am weddill fy oes - for the rest of my life

pa mor glou - how quickly

strwythur brawddegau - the sentence structures

cynhyrchydd teledu - television producer

bedydd tân - a baptism of fire

cyfathrebu - to communicate

nythod - nests

noeth - naked

"Geraint Lloyd yn cymryd diddordeb mawr yng nghasgliad John Williams o hen geir a pheiriannau. Erbyn hyn mae Eisteddfod Gnedlaethol y Fenni wedi cychwyn ac un o brif gystadlaethau'r Eisteddfod erbyn hyn ydy Dysgwr y Flwyddyn. Bob bore wythnos diwetha roedd y Post Cyntaf yn rhoi sylw i bob un o’r dysgwyr sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth. Bore Gwener tro Sarah Reynolds oedd hi i sôn ychydig am ei hanes... "



Rhaglen Tudur Owen - Wariars

ista - eistedd

gafael yn sownd - hold tight

Yr Athro - Professor

be mae o'n dda efo... - what's it got to do with...

mochyn coed - fir cone

Eidalwr - Italian (male)

fo ddaru ddarganfod - it was he that discovered

hadau - seeds

sbia arno fo - look at him

y gamp - the achievement

"Sarah Reynolds, un o'r pump sydd yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn. Mi gawn ni wybod nos Fercher pwy sydd wedi ennill. Pob lwc iddyn nhw i gyd ynde? Mae yna eitem newydd ar raglen Tudur Owen -Wariars. Pwy ydy'r 'wariars' ma felly? Wel, grwp o bobl ydyn nhw sydd eisiau dysgu mwy am sut i fyw yn yr awyr agored. Ond yr wythnos diwetha mi gafodd y grwp wers mathamateg yn ogystal â gwers natur..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar Y Marc: Gemau Olympaidd

Nesaf

Blog Ar Y Marc: Cymreictod y gem