Gyda’r gemau Olympaidd wedi cychwyn yr wythnos yma ym Mrasil, mae’n debyg bod llawer ohonom yn derbyn na welwn unrhyw Gymro (na Chymraes) yn cystadlu yn y gemau pêl droed.
Anghywir, wel i raddau!
Aelod o garfan ac un o selogion tîm cenedlaethol merched Canada ydi merch a fyddai yn gymwys i chwarae dros Gymru, sef Rhian Wilkinson.
Fe gafodd ei mam, Shan ei magu ym mhentref Bovilston ym Mro Morgannwg a bu Rhian byw yn y Bontfaen, gan fynychu’r ysgol gynradd leol, am ddwy flynedd ar ddechrau’r nawdegau, tra roedd ei rhieni yn gweithio fel athrawon yn yr ardal.
Amddiffynwraig ydi Rhian ac mae eisoes wedi cynrychioli Canada mewn dros gant a saith deg o gemau rhyngwladol, a hynny dros gyfnod o ddeuddeng mlynedd ers y gêm gyntaf yn erbyn yr Unol Dalaethau yn 2003.
Ar wahân i gystadlu yn y Gemau Olympaidd, ( yn 2008 yn ogystal ag yn Llundain yn 2012) mae wedi chwarae mewn pedair cystadleuaeth i dimau rhanbarth CONCACAF o FIFA, dwywaith yn y gemau Pan Americanaidd, a hefyd yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd i Ferched.
Yn y Gemau Olympaidd diwethaf, llwyddodd Rhian ynghyd a thîm Canada i ennill y fedal efydd, ac mae wedi cael ei dewis i fod yn aelod o Bwyllgor Strategol FIFA sy’n ymdrin â strategaethau byd-eang ar gyfer pêl-droed a'i statws gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.
Yn ogystal, mae yn prysur astudio i gymhwyso i fod hyfforddwraig ac yn dilyn rhai o dan drefn Cymdeithas Bel Droed Cymru.
Felly, os am barhau i ddilyn y Cymry mewn cystadleuaeth pêl droed arall dros yr wythnosau nesaf, cadwch eich llygaid allan am hynt a helynt tîm merched Canada. Mae eu gem gyntaf nos Fercher yn erbyn Awstralia, yn nos Sadwrn yn erbyn Zimbabwe a’;r drydedd gêm yn y grŵp agoriadol nos Fawrth nesaf yn erbyn yr Almaen.
Pob lwc i un o gyn disgyblion ysgol gynradd y Bontfaen yn y gemau Olympaidd.
Cewch fwy o hanes Rhian Wilkinson ar ei gwefan www.rhianwilkinsonsoccer.com
