BBC Radio Cymru Mwy fydd enw gorsaf dros dro y gwasanaeth cenedlaethol, gyda’r rhaglenni yn fyw arlein o ddydd Llun, 19 Medi.
Mae BBC Radio Cymru Mwy, sy’n gynllun peilot, yn rhan o gyfres o ddatblygiadau digidol gan y gwasanaeth cenedlaethol ar drothwy ei phenblwydd yn ddeugain oed. Dros gyfnod o bymtheg wythnos bydd pwyslais ar fwy o gerddoriaeth a hwyl gyda BBC Radio Cymru Mwy yn darlledu yn ystod bore’r wythnos waith. Daw’r peilot i ben ar 2 o Ionawr 2017, ddeugain mlynedd union i noswyl lawnsio BBC Radio Cymru ar yr 3 Ionawr 1977.
Sioe frecwast fyrlymus fydd yn cychwyn y darlledu am 7 y bore, gyda BBC Radio Cymru yn cynnig dewis o raglenni boreol am y tro cyntaf erioed, gyda’r rhaglen newyddion dyddiol, Post Cyntaf a Rhaglen Aled Hughes yn parhau ar BBC Radio Cymru. Bydd rhaglenni yr orsaf dros dro yn parhau tan o leia’ hanner dydd, gyda'r bwriad i arbrofi o bryd i’w gilydd gyda darllediadau dros ginio.
Ar gael drwy Gymru gyfan, bydd modd gwrando ar wefan BBC Radio Cymru, ar yr ap BBC iPlayer Radio ac fel dewis arall ar radio DAB yn y de ddwyrain. Bydd amserlen BBC Radio Cymru yn aros fel ag y mae ar FM ac ar DAB.
Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Mae’r enw BBC Radio Cymru Mwy yn dweud y cyfan –mwy o gerddoriaeth, mwy o chwerthin a mwy o ddewis i wrandawyr BBC Radio Cymru.
“Wrth i BBC Radio Cymru agosau at y penblwydd mawr yn ddeugain oed yn 2017, mae’n holl bwysig ein bod ni’n parhau i arloesi a thorri tir newydd. Mae’r orsaf dros dro yn gyfle i ni fanteisio ar y dechnoleg newydd ond yn bwysicach mae’n gyfle i wrandawyr fwynhau mwy o ddewis yn ogystal â gwrando ar gynnyrch BBC Radio Cymru mewn ffyrdd newydd. A hyn oll heb ddiethrio gwrandawyr ffyddlon BBC Radio Cymru fydd yn parhau i wrando yn yr un modd.”
Fel rhan o’r cynlluniau digidol arloesol, bydd BBC Radio Cymru hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid i feithrin lleisiau newydd a manteisio ar ap cerddoriaeth newydd y BBC, sy’n rhoi’r gallu i ddefnyddwyr ddewis eu hoff gerddoriaeth, gan gynnwys artistiaid Cymraeg.

