Gyda’r tymor pêl droed yn dechrau’r pen wythnos yma yng Nghymru, tybed faint o’n clybiau sydd yn fwy parod i gynnig gwasanaeth cyhoeddus sy'n magu a chefnogi dwyieithrwydd o fewn eu hardaloedd a dilyn esiampl y Gymdeithas Bel Droed tra yn Ffrainc yn ystod cystadlaethau'r Ewros yr haf yma?
Trwy eu cyfweliadau a chyhoeddiadau, fe wnaeth y Gymdeithas fwy i hybu'r Gymraeg na llawer un arall mewn meysydd eraill yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae defnyddio’r Gymraeg am ryw fis yn Ffrainc yn un peth, ond mae’r hwb a’r her wedi ei roi, i glybiau pêl droed ar hyd a lled Cymru i efelychu hyn a dod a’r Gymraeg yn fwy amlwg yn ei defnydd ffurfiol ac achlysurol o ddydd i ddydd.
Tra mae clybiau fel Treffynnon yng Nghynghrair Undebol Huws Gray eisoes wedi bod yn eithaf blaengar yn y gwaith yma drwy gynnig gwasanaeth cyhoeddi dwyieithog drwy'r tymor diwethaf, mae hyn yn cael ei ymestyn i gynnal colofn Gymraeg o fewn y rhaglen y tymor yma.
Ond nid Treffynnon ydi’r unig glwb i hybu’r Gymraeg. Enghraifft dda o hyn ydi clwb pêl droed Aberystwyth sydd eisoes yn cynnig colofn Gymraeg o fewn ei rhaglen ar gyfer gemau yn yr Uwch Gynghrair.
Mae clwb Wrecsam hefyd wedi bod yn arloesol yn hyn o beth o fewn eu cynghrair yn Lloegr, gyda cyhoeddiadau rheolaidd yn y Gymraeg ar y Cae Ras ar gyfer pob gem o dan ofalaeth Dafydd Roberts, Dylan Ellis ac Ifan Jones. Yn ogystal fe geir colofn Gymraeg gan Dafydd Roberts ar wefan y clwb yn achlysurol yn cyfeirio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg am ddigwyddiadau a hanes y clwb ar y Cae Ras ( er y gall y clwb wneud mynediad i’r erthyglau yn llawer haws). Y gobaith y tymor yma yw y bydd hyn yn cael ei ymestyn, fel yma yn Nhreffynnon, i gyflwyno colofn Gymraeg o fewn rhaglenni gemau yn rheolaidd.
Os gall ein Cymdeithas Bel Droed ddangos y ffordd inni fel y gwnaethpwyd yn Ffrainc, yna mae’r sylfaen wedi ei osod i glybiau o fewn ein gwlad efelychu hyn a dilyn arweiniad ac esiampl y Gymdeithas a defnyddio'r Gymraeg yn fwy gweithredol ac yn gyson o fewn ei gweithgareddau a'u cysylltiadau cyhoeddus.
Faint hefyd o glybiau sydd wedi gwneud ymdrechion dros yr haf i ddenu mwy o gefnogwyr i'w dilyn y tymor yma? Aeth tua saith deng mil o Gymry draw i Ffrainc yn ystod yr Ewros. Felly sut mae ein clybiau lleol wedi mynd ati i’w cael hwy i ddod yn rhan o gymdeithas ei timau lleol adref drwy gynnal gweithgareddau sydd yn magu mwy o gysylltiad rhwng y timau a’i hardaloedd?
Faint o dimau ydych chi yn gwybod amdanynt sydd yn ymestyn allan i’w cymdeithas ac yn fwy parod i hybu'r Gymraeg, yn gyhoeddus drwy gyhoeddiadau, yn y rhaglen neu drwy eu gwefan?
Gyda chymorth y cefnogwyr lleol, fe lwydda’r clybiau i ddod yn agosach at eu cymuned
Gyda’n gilydd yn gryfach.
Diddorol fyddai clywed eich ymateb.
