Main content

Pacio’r bagiau a chwarae rhif 10

Jonathan Davies

Mae Hong Kong yn teimlo mor bell nôl erbyn hyn. Tair dinas mewn pythefnos a tair dinas arall i ddod.

Fel arfer hwn fydde’ wythnos ola’ taith rygbi haf, ond dim ond nawr ni’n dod at y rhan pwysig a’r gemau prawf. Yn ffodus ma’r bois i gyd yn dod ml’an ac mae’n gwneud y daith yn rhwyddach.

Newcastle (New South Wales) o’dd y lle diwetha’ i ni gael aros. Unwaith eto wnaethon ni gyrra’dd ar ŵyl y banc ac roedd e’n dawel iawn. Fi’n siŵr bo’ nhw’n cael mwy o wyliau’r banc ‘na ni draw fan hyn!

Dim ond am amser byr o’n ni yna, ond roeddech chi’n gallu gweld o’r traethau bod e’n lle grêt yn yr haf i syrffio. Roedd y stadiwm yn grêt. ‘Wi’n ffan mawr o stadiwm rygbi’r gynghrair mas fan hyn, mae banciau mawr o wair ar yr ochrau i’r dorf eistedd.

Jonathan Davies ar daith y Llewod

Chwarae rhif 10

Nes i gael fwy o amser ar y cae yn ystod y gêm ddiwethaf (yn erbyn tîm cyfunol New South Wales-Queensland Country) a hefyd sgorais gais arall. Ma’ pobol wedi dechrau galw fi’n Sniffer nawr, Jiffy (Jonathan Davies y sylwebydd) wnaeth ddechrau’r peth. Dim ond bod y ceisiau’n cadw i ddod, sai’n mynd i gwyno!

Galwes i am y gic ar draws ond dangosodd Brian (O’Driscoll) sgil arbennig gyda’i grubber kick, o’n ni mor falch i gael y gais. Mae rhai o’r bois yn gweud ein bod ni ‘di gadael rhai ceisiau ma’s ar y cae. O’dd e’n eitha’ rhwystredig i beidio gorffen rhai ohonyn nhw. 

O’n i bron a cael chwarae fel maswr. Dwedodd yr hyfforddwyr i ddechre y bydden i’n mynd ar y cae yn lle Jamie (Roberts) ond yna dywedon nhw wrthai am aros, achos bod Hoggie (Stuart Hogg) wedi cael bwmp bach. Nes i feddwl “co ni off” achos sai ‘di chware rhif 10 ers y dyddie yn y tîm dan 11! Bydde hwnna wedi bod yn hanner awr diddorol!

Roedd yn ganlyniad da, ma’ rhaid i ni gadw’r momentwm i fynd nawr wrth i’r bois ga’l hyder o bob gêm.

Treulio amser yn Sydney

R’yn ni’n Sydney nawr. Mae ‘na bwll nofio ar ben y gwesty ar llawr 31, mae’r olygfa yn anhygoel. Wrth i ni ddreifo trwy Sydney ro’dd y bois yn tynnu lluniau ar eu ffôns, yn enwedig wrth i ni weld y Sydney Opera House sydd mor eiconig. Rwy’n dwli ar Sydney, mae’n fawr gyda digon i ‘neud yma.

Gethon ni brynhawn bant ac es i i Manly ar y cwch am bach o ginio. Mae’r cyfle i fynd ma’s o gwmpas y lle yn un o’r pethe gorau am y daith. Mae’r ffaith eich bod chi’n gallu eistedd ar y traeth, er taw gaeaf yw hi mas ‘ma, yn gwneud fi’n sâl! Chi’n gweddïo am dywydd fel hyn gartre!

Rwy’n rhannu stafell gyda Rob Kearney (Asgellwr / Cefnwr). Mae e’n chware’ gêm am y tro cyntaf ar y daith dydd Sadwrn ar ôl gwella o anaf. Mae wedi gweithio’n galed wi’n falch iawn drosto fe. Fi’n siŵr pan ma’ fe’n ymarfer cyn y gêm bydd y bois yn clapio’n sarcastig i groesawi fe i’r daith. Mae’n brofiadol iawn ac wedi bod ar y daith pedair blynedd yn ôl yn Ne Affrica.

Warby yn ffeindio ei ffordd gartre

Mae Rob yn gyfrifol am gêm fach ni’n chware, ble ni’n rolio’r dice ac os ma’ fe’n glanio ar rif arbennig, ni’n cael forfeit. Un o’r pethe sydd rhaid i ni ‘neud yw ffeindio’r ffordd nôl i’r gwesty ar ôl bod yn hyfforddi, heb arian neu ffôn, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n codi ofan ar unrhyw un! Roedd Sam (Warburton) yn anlwcus ac o’dd rhaid iddo fe ffeindio ffordd ei hunan nôl. Mae’r gemau ‘ma yn sbort ac yn cadw yn chwerthin.

Sam Warburton yn cael lifft nol gyda criw BBC ScrumV

Yn erbyn y Waratahs byddwn ni’n chware nesa’, fe ennillon nhw’n erbyn Western Force y dydd o’r blan. Byddan nhw’n llawn hyder. R’yn ni wedi ca’l canlyniadau da ar y daith hyd yn hyn ac mae’n bwysig i gadw hwnna i fynd. Mae ennill dydd Sadwrn yn bwysig. 

Un peth wi heb ‘neud eto yw bod yn ail lais yn sylwebu ar Radio Cymru fel Jamie (Roberts). Gobeithio byddai’n chware ym mhob un o’r gemau, ond os na fyddai, efallai bydd rhaid i fi wella safon fy Nghymra’g! 

Rhaid galluogi javascript i chwarae'r cynnwys

Gareth Charles yn sgwrsio gyda Jonathan Davies ar ol iddo sgorio cais yn erbyn y Waratahs.

(Roedd Jonathan Davies yn sgwrsio yn arbennig ar gyfer gwefan BBC Radio Cymru gyda Gareth Charles, gohebydd rygbi BBC Cymru ar daith y Llewod)

Gwefan Taith y Llewod 2013

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 11 Mehefin 2013

Nesaf

Gwrthod Dyrchafiad