Main content

Gwrthod Dyrchafiad

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ymddengys bod rhaid aros i ddarganfod pa dimau a fydd yn codi ac eraill ddisgyn o fewn trefn cynghreiriau Cymru.

Mae'r oedi wedi digwydd gan nad yw pob tîm a fyddai’n gymwys i gael dyrchafiad yn fodlon gwneud y naid ymlaen.

Costau mae’n debyg ydi'r prif reswm a gorfod teithio ymhellach hwyrach.

Tydi hyn ddim yn broblem newydd, ond does dim wedi newid.

Pam felly mae timau sydd ddim am dderbyn dyrchafiad yn cael cystadlu yn yr un gyfundrefn a thimau mwy uchelgeisiol?

Ydi hi’n deg i reolwr neu chwaraewyr sydd wedi brwydro am lwyddiant drwy'r tymor, i ddod i ddeall na fydd y llwyddiant yn cael ei gydnabod gen eu clybiau eu hunain?

Oni ddylai pob tîm wneud datganiad ar ddechrau tymor eu bod yn fodlon derbyn dyrchafiad os byddant yn gymwys, neu ei gwneud yn ddigon clir na fyddant, ac felly yn cael chwarae mewn cystadleuaeth amgen?

Does dim deall ar y dryswch sydd yn codi ar ddiwedd tymor gan dimau isel eu huchelgais - ac felly mae’n amser newid y drefn, fel bod pob tîm yn anelu am yr un nod ar gychwyn pob tymor.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pacio’r bagiau a chwarae rhif 10

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 8