Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 11 Mehefin 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Daf a Caryl - Alys Williams



andros o brysur - extremely busy

brwydr - battle

canu deuawd - to sing a duet

gornest - bout

yn gyfarwydd â - familiar with

cynulleidfa - audience

yn fyw - live

cynhyrchwyr - producers

awyrgylch - atmosphere

colur - make up



"...efo llais Alys Williams, yn sgwrsio ar y ffôn efo Caryl a minnau ddydd Iau. Os dach chi wedi bod yn gwylio The Voice ar y BBC mi fyddwch chi'n gwybod bod Alys wedi gwneud yn arbennig o dda yn y gystadleuaeth. Pan gaethon ni sgwrs efo hi roedd hi'n paratoi ar gyfer y rownd nesa oedd yn digwydd nos Wener diwetha. Tasai hi'n mynd drwyddo y noson honno, dim ond un rownd arall ac mi fasai hi yn y ffeinal. Roedden ni eisiau gwybod sut oedd hi'n teimlo am yr holl beth..." 



Stiwdio - Swci Boscawen



ymennydd - brain

ymdopi â - to cope with

cyfnod - period of time

llawdriniaeth - surgery

canlyniadau - results

achub bywyd - to save a life

gwasgu - to squeeze

triniaeth - treatment

lluosi - to multiply

unig - lonely



"...yn anffodus aeth Alys ddim trwodd i'r rownd nesa, ond llongyfarchiadau iddi hi am fynd mor bell. Dan i gyd yn falch iawn ohoni hi. Awn ni at gantores arall rwan, Mared Lenny oedd yn canu gan ddefnyddio'r enw Swci Boscawen. Mi gafodd Mared wybod yn ystod haf Dwy Fil a Deg bod ganddi gancr ar yr ymenydd. Mi gawn ni glywed rhan o sgwrs rhynddi hi a Nia Medi, lle mae hi'n sôn am ddigwyddiadau'r haf hwnnw a sut y gwnaeth hi ymdopi â'r sefyllfa."



Dewi Llwyd - Rhys ap William



anlwc - misfortune

gwaedlyd ar yr ymenydd - brain haemorrhage

yn ddiymadferth - listless

gwellhad - improvement

pryder gwirioneddol - real worry

gofid - concern

pwysau - pressure

adferiad - recovery

becso - poeni

canolbwyntio - concentrate



"Un arall sydd wedi cael amser hynod o galed yn ddiweddar ydy Rhys ap William. Buodd mewn coma yn ystod mis Chwefror eleni ar ôl i rywun ymosod arno fo. Diolch byth mae wedi gwella digon erbyn hyn i ddod i'r stiwdio i sgwrsio efo Dewi LLwyd. Fo oedd gwestai penblwydd Dewi a dyma fo'n rhannu efo ni rai o brofiadau ofnadwy y misoedd diwetha...."



Wyn ar Wyddoniaeth - anifail



gwyddoniath - science

rhywogaeth - species

yn alluog - intelligent

goroesi - to survive

addasu - to adapt

amgylchedd - environment

synhwyrau - senses

ystlum - bat

hela - to hunt

glowynau byw - butterflies



Braf clywed Rhys a Mared yn medru siarad mor agored am eu profiadau, y ddau dw i'n siwr yn ddiolchgar iawn am y gofal meddygol gaethon nhw yn ystod y cyfnod anodd hwnnw yn eu bywydau. Mae yna raglen newydd yn trafod gwyddoniaeth ar ddydd Llun sy'n cael ei chyflwyno gan Wyn Davies. Yn y rhaglen gynta mi fuodd o'n siarad efo'r gwyddonydd Gethin Thomas. A be oedd y cwestiwn anodd, gwyddonol gofynnodd Wyn iddo fo - 'pa fath o anifail sach chi'n licio bod, tasech chi'n cael y dewis?' Dyma ei ateb...

Nia - Bizet



cyfansoddwr - composer

cefndir gwirioneddol - a proper background

gosodiad - statement

gweddill - the rest

yn rhwydd - yn hawdd

llwyddiant cymharol - relative success

rhyfeddol - surprising

athrylith - genius



"Wel, ella nad oedd y cwestiwn yn swnio'n wyddonol iawn, ond ateb gwyddonydd go iawn gaethon ni yn fan'na ynde? I fyd yr opera rwan efo John Hardy, oedd yn cyflwyno rhaglen Nia ddydd Llun y trydydd o Fehefin. Y cyfansoddwr Bizet oedd dan sylw a hynny gan iddo fo farw

ar Fehefin y trydydd Mil Wyth Saith Pump yn drideg saith oed. Mae'r rhan fwyaf o bobol yn cofio Bizet am yr opera boblogaidd Carmen. Ond oedd hi'n boblogaidd yn ystod bywyd Bizet? Geraint Lewis fuodd yn rhoi ychydig o'r hanes i John."



Daf a Caryl - Cân y Babis



yn y cyfamser - in the meantime

gwanwyn - spring

ei hefaill hi - her twin

gwres - heat



"At gerddoriaeth cwbl wahanol rwan, ond llawn cystal ac unrhybeth sgwennodd Bizet! Ia mae'n amser Cân y Babis unwaith eto. Dydd Iau ar rhaglen Daf a Caryl roedd hi'n ddwy flynedd ers i ni glywed ‘Cân y Babis’ am y tro cynta. I ddathlu hyn mi wnaeth Caryl ei hun sgwennu a chanu'r gân i ni. Pa enwau ar fabis dach chi'n meddwl sy wedi bod fwya poblogaidd yn ystod y ddwy flynedd gynta? I ffeindio allan cerwch i'n gwefan ar http://www.bbc.co.uk/radiocymru a chliciwch ar Dafydd a Caryl. Yn y cyfamser, mwynhewch y gân..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 7

Nesaf

Pacio’r bagiau a chwarae rhif 10