Main content

Gwawr newydd i Gymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn dilyn y siom o fethu a chymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd eleni, fe wawriodd cyfnod a gobaith newydd ymysg to brwdfrydig y Cymry newydd neithiwr yng Nghaerdydd.

Ie, daeth llanw wedi'r trai, ac enfys wedi'r glaw, ac erbyn diwedd y noson mi wn y wawr a ddaw.

A’i dyma’r perfformiad gorau a welwyd gan Gymru erioed ?

Gwell na’r ddwy gêm yn erbyn Gwlad Belg neu’r prynhawn gwefreiddiol hwnnw ym Mordeaux ?

Anodd ydi mesur llwyddiant ond fe gyrhaeddodd Ryan Giggs a’i dim ifanc fel seren y geni newydd wrth i Gymru chwalu Gweriniaeth Iwerddon yn ulw a gosod safonau newydd i ddyfodol newydd.

Roedd y chwarae yn wefreiddiol, gyda phasio cywrain, cyflym a symudiadau deallus a chwim, yn dangos awch didostur at eu gwrthwynebwyr . Disgyblaeth hefyd yn dal popeth wrth ei gilydd a’r cyflymder yn gryfder dros y perfformiad.

Roedd y goliau yn berlau, gyda gôl Gareth Bale oddi wrth pas dreiddgar Ben Davies yn drysor ar y cwbl.

Fel y ddywedodd Ryan Giggs ar y diwedd - y newyddion drwg ydi fod angen cadw at y safon yma yn y dyfodol! Tasg anodd? Nid os mai dyma'r hyn a ellir yn ôl tystiolaeth neithiwr, ei ddisgwyl.

Seren y noson? Gareth Bale - mewn perfformiad na allai unrhyw un ei rwystro? Neu Ethan Ampadu efallai - gosododd y gŵr ifanc o Chelsea y safon ar ôl pum munud wrth iddo ledaenu'r chwarae, darganfod David Brooks (newydd ddyfodiad arall) ymlaen i Joe Allen cyn gweld Tom Lawrence yn gorffen y symudiad gyda gôl fuan. Ar ôl hynny doedd ond un tîm yn y gêm, a gyda’r dorf yn adleisio eu cefnogaeth, ychwanegodd Bale ei berl yn dilyn pas letraws arall, y tro yma gan Ben Davies.

Roedd y gêm wedi ei hennill erbyn yr egwyl, gydag Aaron Ramsey yn ychwanegu'r drydydd, eto yn dilyn o waith cychwynnol ac egni Ampadu.

Gol fuan yn yr ail hanner i Connor Roberts (un arall yn profi llwyddiant buan yn ei yrfa) , ac er i Iwerddon sgorio yn dilyn camgymeriad Ramsey, doedd yna'r un ffordd yn ôl iddynt.

Mae Cymru ar y ffordd i Ddenmarc erbyn hyn - na, nid yr amaturiaid a oedd yn debygol o fod yno ar un adeg - ond y tîm go iawn a fydd yn eu hwynebu brynhawn Sul.

Does ond obeithio y gall Cymru unwaith eto gynnig perfformiad go iawn yn eu herbyn.

Does dim lle i ofidio - mae safon y to newydd wedi ei osod.

Mwy o negeseuon

Blaenorol