Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Post Cyntaf - Elin Fflur ac IVF
cantores - female singer
triniaeth - treatment
beichiogi'n naturiol - natural pregnancy
cyllid - finance
dod i ben - finish
andros o anodd - very difficult
tu ôl i'r wên barod - behind the ready smile
ystadegau - statistics
trafferth - problems
ymateb - response
Clip o'r gantores Elin Fflur yn siarad efo Dafydd Gwyn ar y Post Cyntaf am ei phrofiad o golli babi ar ôl cael triniaeth IVF. Gobaith Elin ydy bydd sgyrsiau fel yr un gyda Dafydd yn help i bobl eraill sydd yn yr un sefyllfa a hi.
Ifan Evans - Chwaraeon Patagonia
hyfforddi - training
trwy gyfrwng - through the medium
sut adnoddau - what kind of resources
mae gwair yn brin - grass is in short supply
tywod a cherrig - sand and stones
angerddol - passionate
pa gamp? - what sport?
cleisiau - bruises
gwaed - blood
llai o groen - less skin
Elin Fflur yn siarad ar Post Cyntaf am ei phrofiadau hi efo IVF. Draw i Batagonia rwan ac i'r rhan honno dan ni'n ei galw'n Wladfa sef yr ardal aeth nifer o Gymry draw iddi dros 150 o flynyddoedd yn ôl. Mae Dafydd Duggan a Meilyr Jones yn y Gaiman, tref mwya Cymraeg y Wladfa yn hyfforddi plant lleol i chwarae pêl-droed a rygbi, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwrs. Cafodd Ifan Evans sgwrs gyda'r ddau wythnos diwetha i weld sut mae pethau'n mynd.
Aled Huws - Penblwydd Golwg
golygydd y cylchgrawn - the magazine editor
ai'r un ydy'r nod? - is the objective the same?
pob agwedd - every aspect
diwylliant - culture
celfyddydau - arts
cymryd yn ganiataol - taking for granted
datblygbu - to develop
ymestyn - to extend
sicrhau - to ensure
dirywiad - decline
Dafydd a Meilyr oedd y rheina'n sôn am hyfforddi pêl-droed a rygbi i blant y Wladfa mewn caeau llawn tywod a cherrig. Mae’r cylchgrawn Golwg yn dathlu ei ben blwydd yn 30 oed. Dyma i chi olygydd y cylchgrawn Sian Sutton yn rhoi ychydig o hanes y cylchgrawn mewn sgwrs efo Aled Hughes. Roedd Aled eisiau gwybod i ddechrau oedd nod y cylchgrawn wedi newid dros y blynyddoedd.
Cofio - Ceiniogau
ceiniogau - pennies
Y Bathdy Brenhinol - The Royal Mint
arbed - to save (money)
perchennog - owner
prinder - shortage
ddim fi sy'n gyfrifol - It's not me that's responsible
sylweddoli - to realise
wiwer - sqirrel
trigolion - residents
Ychydig o hanes y cylchgrawn Golwg yn fan'na gan y golygydd Sian Sutton. Buodd yna dipyn o sôn dros yr haf am ddyfodol y darnau un a dwy geiniog, gyda Banc Lloegr yn dweud nad oes lawer o bwynt i'w cadw erbyn hyn. Yn ôl y Banc mae'r rhan fwyaf o'r ceiniogau hyn un ai'n cael eu cadw mewn jariau neu yn gorwedd yng nhgefn soffas! Ond mae hon yn hen stori mewn ffordd ac r Cofio yr wythnos yma clywon ni ddarn o'r archif lle roedd John Meredydd yn holi pobl Ceredigion be oedden nhw'n ei wneud efo'u ceiniogau sbâr.
Geraint Lloyd - Trawsblaniad pancreas
codi ymwybyddiaeth - raising awareness
trawsblaniad - transplant
aren - kidney
nerth - strength
o dan y gyllell - under the knife
rhoi bywyd newydd - to give new life
isel fy ysbryd - depressed
llawen - happy
rhwystriadau - restrictions
Tybed fydd y darn ceiniog yn rhywbeth i'r archif hefyd yn y dyfodol, a be' fasai'n dugwydd i'r eitemau 99c 'sgwn i? Roedd hi'n wythnos codi ymwybyddiaeth rhoi organau yr wythnos diwetha ac ar raglen Geraint Lloyd clywon ni gan Dylan Hughes sydd wedi cael trawsblaniad aren a phancreas. Yn ôl Dylan mae'r trawsblaniad wedi newid ei fywyd, dyma fo'n esbonio sut mae hynny wedi digwydd.
Sioeau Cerdd - Wicked
cynulleidfaoedd - audiences
aelod - member
ychwanegol - additional
cymeriadau - characters
mor boblogaidd - so popular
clyweliad - audition
golygfeydd - scenes
wnes i brin dy nabod - I hardly recognised you
trawsnewidiad - transformed
moel - bald
Dylan Hughes oedd hwnna'n esbonio sut mae'r cynllun rhoi organau wedi newid ei fywyd yn llwyr. Mae Steffan Rhys Hughes wedi siarad efo nifer o Gymry sy'n cymryd rhan mewn sioeau cerdd yn y West End ac mewn llefydd eraill dros y misoedd diwetha. Yr wythnos yma cafodd o sgwrs efo Rhydian Marc sy'n perfformio yn y sioe Wicked. Sut mae pethau'n mynd efo'r sioe tybed? Dyma i chi flas ar y sgwrs.
