Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 08/12/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Tommo – Toni Carrol yn y Ffair Aeaf

Ffair Aeaf - Winter Fair

crwydro - to wander

dod o hyd i - to find

cantores - singer (female)

cynlluniau - plans

cusanu - to kiss

gwestai'r dydd - guest of the day

cerddoriaeth - music

dyfalu - to guess

rhy rwydd - too easy

...taith fach i Ffair Aeaf Llanelwedd. Mae'n debyg mai hon ydy'r ffair aeaf fwyaf yng Nghymru ac er bod y tywydd wedi effeithio arni hi, eleni roedd hi'n dal yn bosib i grwydro o gwmpas y sioe a dod o hyd i hen ffrindiau. A dyna'n union wnaeth Tommo ddydd Llun ac mi ddaeth ar draws y gantores a'r actores Toni Carrol. Eflallai bydd rhai ohonoch chi'n ei chofio fel y cymeriad 'Olwen' ar Pobol y Cwm ers stalwm, ond cyn hynny buodd hi'n canu efo'r enwog Bonnie Tyler. Be oedd ei chynlluniau hi ar gyfer y Nadolig tybed? Dyma hi'n dweud y cyfan wrth Tommo, ac wrth Brian yr Organ wrth gwrs...

Dan yr Wyneb – Seiri Rhyddion

Seiri Rhyddion - Freemasons

yn ystod cyfarfodydd - during meetings

ymaelodi - to join

cydnabod eich cred - acknowledge your beliefs

mwgwd - mask

pa lw? - what oath?

teyrngarwch - loyalty

defodau - rituals

gwarchod - to guard

drwgdybus - suspicious

Toni Carrol yn cael ychydig o hwyl yn fan'na efo Tommo a Brian yr Organ ar faes Y Ffair Aeaf. Taith bach go wahanol gafodd Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb ddydd Llun. Mi gafodd o daith fach o gwmpas adeilad y Seiri Rhyddion yn Llangefni. Nid pawb sy'n cael gweld y tu mewn i'w hadeiladau nhw, nac ychwaith yn cael gwybodaeth amdanyn nhw. Mae'r clip nesa ma felly yn roi rhyw gip-olwg bach i ni ar fywyd y Seiri Rhyddion. Neu ydy o? Dyma Dylan efo Ieuan Redvers Jones, un o Seiri Rhyddion Llangefni...

Cofio – Megan Lloyd George

ymuno â - to join

go brin - not likely

cyfrinachau - secrets

dodrefn - furniture

hel atgofion - reminiscing

Canghellor y Trysorlys - Chancellor of the Exchequer

Tŷ'r Arglwyddi - House of Lords

perthyn - to belong

cychwyn - to start

Wnaeth Dylan ymuno â nhw tybed? Go brin mae'n debyg, chafodd ddim gwybod llawer o'u cyfrinachau nhw naddo? Mi gaethon ni wybod am rai o gyfrinachau bywyd teuluol Lloyd George ddydd Mercher ar Cofio. Clip o'r archif oedd hwn, sef sgwrs efo Megan Lloyd George, merch Lloyd George, gafodd ei recordio ym Mil Naw Chwe Phump. 'Dodrefn’ oedd thema'r rhaglen, a dyma Megan Lloyd George yn hel atgofion am eu cinio Sul teuluol o gwmpas bwrdd y gegin, pan fyddai ei thad yn dod adref. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Caryl – Sioeau Talent

yn fyw - live

cantorion - on stage

profiad - experience

cerddorfa - orchestra

cynulleidfa - audience

cynhyrchu - to produce

afreal - unreal

darlun - picture

yng ngŵydd pawb - in front of everyone

llabuddio'n gyhoeddus - criticised (lit:stoned) in public

Difyr ynde? Megan Lloyd George yn rhoi darlun bach i ni o fywyd teuluol ei thad, LLoyd George. Mi glywon ni sgwrs ddifyr arall ar raglen Caryl ddydd Iau. Sioeau Talent oedd y pwnc, ac roedd tri o’i gwesteion wedi bod yn llwyddiannus ar wahanol sioeau. Enillodd Tammy Jones ar Opportunity Knocks gyda Hughie Green a’i ‘Clapometer’ enwog, Cefin Roberts gyda Chôr Glanaethwy ar Britain’s Got Talent, a hefyd Jodi Bird aeth yn bell iawn ar yr un sioe. Dyma’r tri yn sôn am eu profiadau gyda Caryl...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Goliau Jamie Vardy

Nesaf

Grwp B Cymru - Ewro 16