Main content

Goliau Jamie Vardy

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae llwyddiant Jamie Vardy o sgorio ym mhob un o’r un gem ar ddeg diwethaf yn uwch gynghrair Lloegr, yn olynol, gan dorri record Ruud Van Nistleroy, o sgorio mewn deg, yn dipyn o gamp.

Fodd bynnag, mae’r llwyddiant hefyd yn enghraifft arall sydd yn gwneud i rai pobl feddwl nad oedd bywyd yn bod yn y byd pêl droed cyn yr uwch gynghrair.

Esiampl dda a welais o hyn oedd mewn erthygl ddiweddar yn cyfeirio at gymaint y bu'r cyfryngau yn cyfeirio at lwyddiant Abertawe i gyrraedd yr wythfed safle ar ddiwedd y tymor diwethaf. Rhywsut neu’i gilydd, mae camp yr Elyrch o orffen yn y chweched safle yn yr Adran Gyntaf, yn 1982 o dan reolaeth John Toshack yn cael ei anghofio o dan faner sanctaidd ac elw newydd yr uwch gynghrair.

Felly a’i sgorio mewn un gêm ar ddeg yn olynol ydi'r gorau y gallwn gyfeirio ato os am son am chwaraewyr yn sgorio goliau yn gyson mewn rhediad di-dor o gemau.

Mewn gair - na.

Deuddeg gem yn olynol ydi'r ateb, ac felly , yn eironig iawn ar ôl defnyddio Abertawe fel esiampl o rywbeth sydd yn cael ei anghofio amdano, oherwydd mawredd yr uwch gynghrair, fe fydd Jamie Vardy yn y Liberty brynhawn Sadwrn yma, yn chwilio am ei ddeuddegfed gol yn olynol, a hynny yn erbyn Abertawe! 

Gan Jimmy Dunne mae’r record ar hyn o bryd, wedi iddo sgorio deunaw gol mewn deuddeg gem yn olynol, i Sheffield United rhwng Hydref 1931 ac Ionawr 1932. Ond, fe ellir cyfeirio at rediad arall, rhywbeth yn debyg.

Yn nhymor 1950/51 llwyddodd Stan Mortensen i sgorio dros Blackpool mewn pymtheg gem yn olynol. Y gwahaniaeth fodd bynnag ydi fod Mortensen wedi cyflawni hyn mewn gemau a oedd wedi eu gwahanu oddi wrth ei gilydd oherwydd anafiadau iddo, felly nid rhediad parhaol di-dor mohonynt fel rhai Vardy a Dunne. 

Hawdd ydi anghofio camp Mortensen oherwydd bod yr anafiadau wedi torri ar y perfformiadau di-dor, ac mae’r gêm wedi bod braidd yn greulon wrth iddo gael ei anwybyddu dros y blynyddoedd . Mortensen ydi’r chwaraewr a sgoriodd hytrach yn ffeinal Cwpan Lloegr pan gurodd Blackpool eu cymdogion agos, Bolton o bedwar gôl i dair yn 1953. Ond fel ffeinal Stanley Matthews mae’r gêm yma yn cael ei chofio gan fod y wasg wedi heipio’r achlysur fel cyfle olaf Matthews i ennill y gwpan, neu unrhyw beth petai’n dod i hynny!

Ond yn ôl at y presennol, ac os llwydda Vardy i sgorio ar y Liberty, faint o'r wasg a'r cyfryngau a fydd yn barod i'w gydnabod fel y dyn a sgoriodd mewn mwy o gemau yn olynol nac unrhyw chwaraewr arall yn holl brif adrannau cynghreiriau Lloegr? Cawn wybod yn ddigon buan!

Ond, record newydd neu ddim, mae gan Vardy, hyd y gwelaf i, record unigryw arall yn ei feddiant.

Wedi iddo gychwyn ei yrfa gyda Halifax, ar ôl ymadael a Sheffield Wednesday yn un ar bymtheg oed, chwaraeodd Vardy yng nghynghrair gogledd Lloegr yn erbyn Bae Colwyn, ac yna ymddangosodd i Fleetwood yn erbyn Wrecsam a Chasnewydd yn y Gyngres, sef y Gynghrair Genedlaethol bresennol

(yn Lloegr).

Yn dilyn ei drosglwyddiad i Gaerlŷr, chwaraeodd Vardy yn erbyn Dinas Caerdydd yn y Bencampwriaeth a'r tymor diwethaf fe wynebodd Abertawe yn yr uwch gynghrair.

Tybed felly a oes yna unrhyw beldroediwr arall sydd wedi chwarae gemau o fewn tref cynghreiriau Lloegr yn erbyn pum tîm o Gymru ?

Gyda llaw, os bydd Vardy yn sgorio yn erbyn Abertawe, yna dim ond yn erbyn Wrecsam, o’r pum tim o Gymru, fydd o wedi methu a sgorio!

Rhywbeth o leiaf i gefnogwyr Wrecsam ymfalchio ynddo hwyrach ?

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 08/12/2015