Ers nos Sadwrn diwethaf, mae’r balihw am Ewro 2015/6 wedi bod cymaint nes i un o fy nghymdogion, sydd ddim a hynny o ddiddordeb mewn pêl droed, wedi dod ata’i a dweud – “Tydi Cymru wedi gwneud yn dda i chwarae yn erbyn Lloegr yn ffeinal pencampwriaeth Ewrop yn Ffrainc yr yr haf nesa’ ”!!!?
Wel, allwch i ei feio am gael ei arwain i gredu'r fath beth?
Yn gyntaf, hwyrach na fydd Lloegr yn cymhwyso allan o’r un grwp a Chymru, ond i ddechrau fe fyddai angen i Gymru guro Slofacia yn y gêm agoriadol ym Mordeaux (y gem bwysicaf yn fy marn i) .
Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn ar awyren yn hedfan i Vienna, ar drothwy’r penwythnos pan oedd gemau rhyngwladol yn cael eu cynnal.
Pwy ddaeth ar yr awyren ond Martin Škrtel, amddiffynnwr Lerpwl a Slofacia, a mwyaf sydyn sylweddolais fod hanner yr awyren yn llawn o Slofaciaid wrth iddynt gymeradwyo a chydganu ei enw! Allaf eich sicrhau fod yna ddigon o agwedd gwladgarol yn perthyn i Slofacia ac nid gwaith hawdd fydd ceisio eu trechu.
Dyma fydd y tro cyntaf i Slofacia ymddangos yn rowndiau terfynol pencampwriaethau Ewrop er iddynt gymhwyso ar gyfer ffeinals Cwpan y Byd 2010 cyn colli yn yr ail rownd yn erbyn yr Iseldiroedd. Fodd bynnag gwelwyd buddugoliaeth dros yr Eidal yn sicrhau eu bod wedi codi o'u grŵp agoriadol.
Llwydwyd i ddod yn ail i Sbaen wrth gymhwyso ar gyfer Ffrainc yr haf nesaf, gan adael Wcráin yn y trydydd safle.
Heblaw Škrtel, mae’r golwr Jan Mucha yn brofiadol ac fe fy gydag Everton am dair mlynedd rhwng 2010 a 2013, er mai dim ond dwy gem a gafodd. Ar y llaw arall mae wedi chware pedwar deg pedwar o gemau i'w wlad. Is gapten y tîm a’u chwaraewr mwyaf profiadol ydi Marek Hamsik o Napoli, sydd wedi chwarae wyth deg tri o gemau tra mae'r blaenwr Robert Vittel sydd wedi chwarae i nifer o dimau ar y cyfandir, gan gynnwys FC Nurnberg yn yr Almaen, wedi chwarae wyth deg un o weithiau.
Bydd gem olaf Cymru yn Toulouse yn erbyn Rwsia, a mawr hyderwn y byddai Cymru wedi gwneud digon i gymhwyso ar gyfer y rownd nesaf erbyn hynny. Gorffennodd y tîm yn ail i Awstria yn y grŵp cynhwyso, dau bwynt yn well na Sweden
Gyda golwr CSKA Moscow Igor Akinfeev, yn brofiadol gyda wyth deg pum gem, a’i gyd chwaraewr o Foscow, Sergei Ignashevich yn yr amddiffyn gyda mwy na chant o ymddangosiadau rhyngwladol, yn ogystal â'r capten Roman Shorokov yng nghanol y cae, mae gan y Rwsiaid brofiad eang. Fodd bynnag, nid felly yn ymosodol, gyda’r ddau brif flaenwyr presennol, Artyom Dzyuba o Zenit St. Petersburg a Fyodor Smolov o Krasnodar ond wedi ennill llai na deg cap ar hugain rhyngddynt.
Does gen i dîm amheuaeth y gall Cymru wneud eu marc yn Ffrainc a mawr yw fy hyder y byddant yn camu 'mlaen i'r ail rownd yn llwyddiannus.
