Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 15/12/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Stiwdio - cyfieithu

heriau - challenges

dychwelyd - to return

Bannau Brycheiniog - Brecon Beacons

antur - adventure

addasu - to adapy

yn gyfrifol am - resonsible for

ffawd - fate

addas - suitable

arddegau cynnar - early teens

uniaethu gyda - to identify with

"...sgwrs ar Stiwdio efo Efa Mared Edwards sydd wedi cyfieithu'r nofel Longbow Girl gan Lynda Davies i'r Gymraeg. Roedd Nia Roberts eisiau gwybod mwy am y grefft o gyfieithu. Pa mor anodd oedd y gwaith hwn i Efa a be oedd yr heriau mwya? Gawn ni glywed Efa mewn munud, ond i ddechrau dyma ddarlleniad byr o'r nofel... "

Gari Wyn - Coeden Nadolig

arferiad - habit

nodwyddau - needles

moethus - luxurious

y cyhoedd - the public

paratoi - to prepare

i ddechrau cychwyn - to start with

y we - the internet

erwau - acres

cymhlethdod - complications

elw - profit

"Wel, os dach chi'n chwilio am anrheg Nadolig i blant yn eu harddegau, dyna'r aateb i chi - cyfieithiad Efa Mared Edwards o'r nofel The Longbow Girl. Dach chi wedi prynu eich coeden Nadolig eto? Sgynnoch chi hoff fath o goeden? Yn ôl Gwilym Jones o fferm Pen Lan yng Nglyn Ceiriog, y Noway Spruce ydy un o'r coed Nadolig mwya poblogaidd. Ac mi ddylai fo wybod - mae Gwilym a'i deulu'n gwerthu miloedd o goed Nadolig bob blwyddyn. Dyma fo'n dweud mwy wrth Gari Wyn..."

Rhaglen Dylan Jones - Varsity

Rhydychen - Oxford

Caergrawnt - Cambridge

ôl-radd - post graduate degree

meddygaeth - medicine

yn olynol - consecutively

brwydr - battle

penderfyniadau cywir - correct decisions

sicrhau - to ensure

safon - standard

gwallgo - mad

"Gwilym Jones o fferm Pen Lan yng Nglyn Ceiriog yn sôn am y deg mil o goed Nadolig mae o a'i deulu'n eu gwerthu yr adeg yma o'r flwyddyn. Dw i'n siwr eich bod wedi clywed am y ‘boat race’ rhwng prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Ond oeddech chi'n gwybod bod y gêm rygbi rhwng y ddwy brifysgol, y gêm Varsity, yn bwysig iawn hefyd? Mae’r gêm yn cael ei chynnal yn Twickenham bob blwyddyn, ac eleni roedd chwaraewr enwog iawn yn chwarae i Gaergrawnt. Jamie Roberts ydy o, sydd yn chwarae dros Gymru, ond sydd wedi mynd yn ôl i'r coleg i wneud ôl radd mewn meddygaeth. Mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo fo cyn y gêm ddydd Iau..."

Straeon Bob Lliw - Lon Morgan

wastad - always

mas i'r hewl (heol) - out to the road

o bant - from away

clou - fast

cul - narrow

milltir sgwâr - square mile

yn rhwyddach na - easier than

cryfder corff - body strength

ysgafn - light (weight)

ti werth e - you're worth ut

"Yn anffodus colli wnaeth Caergrawnt ac mi anafodd Jamie druan ei goes yn y munud cyntaf! Gobeithio bydd o 'n gwella'n fuan ynde? MaeJ amie Roberts yn cael digon o gyfle i gadw'n ffit yn y coleg. Ond sut mae gwraig fferm sydd yn hoff o redeg marathons a beicio yn cael amser i gadw'n heini? Dyna ofynnodd Nia Lloyd Jones i Lon Morgan o Flaenwaun, Sir Gaerfyrddin. Dyma i chi Lon yn esbonio sut mae hi'n medru gweithio ar y fferm, rhedeg marathons, beicio a gwneud sawl peth arall yn ogystal...."

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Grwp B Cymru - Ewro 16

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 22/12/2015