Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Gorffennaf 16, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Dylan Jones - Freddy Welsh

pencampwr - champion

enw bedydd - full name (lit:baptised name)

y gwybodusion - those in the know

cyn-ddyfarnwr - ex-referee

cefndir difreintiedig - deprived background

gwregys - belt

wedi ei noddi - sponsored

edmygu - to admire

cydnabod yn fyd-eang - acknowledged worldwideworldwide

hawlio - to claim

...sgwrs am hanes y bocsiwr o Gymru, Freddy Welsh. Mae yna sawl bocsiwr enwog wedi dod o Gymru wrth gwrs, Jonny Owen, Howard Winstone, Jim Driscoll, Tommy Farr ac yn ddiweddar Nathan Cleverley a Joe Calzaghe. Mi roedd yna hanes diddorol y tu ôl i bob un ohonyn nhw, ond falle mai stori Freddy Welsh ydy'r un mwya difyr. Dyma'r arbenigwr bocsio Wynford Jones yn sôn am hanes y bocsiwr wrth Dylan Jones ddydd Llun diwetha...

Dylan Jones - Elin Fflur

amlygrwydd - the limelight

wedi cyffwrdd - touched

uniaethu efo - to identify with

hynod ddiolchgar - extremely thankful

yn llwyr - totally

gwerthfawrogi - to apppreciate

troseddeg - criminology

parhau - to continue

canolbwyntio - to concentrate

ar yr aelwyd - at home

Hanes Freddy Welsh, y bocsiwr o Bontypridd yn fan'na gan y cyn-ddyfarnwr bocsio Wynford Jones. Rwan, dw i'n siwr tasech chi'n gofyn i lawer o siaradwyr Cymraeg, pa un ydy eu hoff gân fodern Gymraeg, y basai 'Harbwr Diogel' Elin Fflur yn dod yn uchel iawn ar y rhestr. Yn sicr mae hi'n un o hoff ganeuon Elin ei hunan gan mai'r gân hon ddaeth â hi i amlygrwydd yn y lle cynta. Dyma Elin yn dweud yr hanes wrth Dylan Jones

Bore Cothi - Gemau Cyfrifiadurol

cyflwyno - presenting

gyrfa - career

gemau cyfrifiadurol - computer games

diwydiant - industry

gwireddu'r freuddwyd - to fulfil the dream

y terfyn - the limit

sa i'n gwybod - dw i ddim yn gwybod

ymestyn - to reach out

hollol wallgo - totally mad

Llais hyfryd Elin Fflur yn fanna yn canu 'Harbwr Diogel'. Caryl Parry Jones oedd yn cyflwyno Bore Cothi yr wythnos yma a dydd Mawrth mi gafodd hi sgwrs efo Gav Murphy am ei yrfa ym myd gemau cyfrifiadurol. Fel y cawn ni glywed mae gan Gav nain, neu fam-gu cwl iawn!

Beti a'i Phobol - Seland Newydd

y bobl frodorol - the native people

ehangu eich profiadau - to broaden your horizons

derbyn - to accept

pobl wynion - white people

gwnïo - to sew

Dw i'n medru gweld nain Gav rwan efo'i Game Boy. Doniol ynde? Rhan o sgwrs rhwng Beti George ac Efa Thomas dan ni'n mynd i'w glywed nesa. Aeth Efa i fyw i Seland Newydd gyda’i theulu pan oedd hi’n unarddeg oed. Buodd hi'n byw yn ardal y Maori ac aeth hi ati i ddysgu'r iaith. Ond sut groeso, tybed, gaeth hi a'i theulu gan y bobl frodorol?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Golwg nol ar Gwpan Y Byd

Nesaf

Awst y 4ydd