Main content

Golwg nol ar Gwpan Y Byd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Fe alwodd un fy nghymdogion i heibio bore ma’. “Tydi’r Almaenwyr ma’n ennill pob peth deudwch?’ medda fo yn hollol swta! Ie, mae’n debyg mai felly mae pethe’n edrych, yn enwedig, os fel fo, eich bod yn meddwl na wnaeth y wlad yma fawr o ddim ohoni draw ym Mrasil! Cafodd ateb digon swta wrth imi ei gadarnhau nad oedd y wlad yma , yn anffodus, ddim hyd yn oed wedi cystadlu yno.

Ond , dyna ni, mae yna rywbeth yn ymwneud a threfn pêl droed yr Almaen sydd yn sicrhau eu bod yn gwybod sut i lwyddo. Tybed a ydi'r ateb yn y ffordd mae eu hymroddiad tuag at eu cenedlaetholdeb ynghlwm a’u hagwedd tuag at drefn timau eu Uwch gynghrair, y Bundesliga?

Cychwynnais ddilyn y gemau gan gredu mai Brasil oedd am gipio’r goron, ac fel nifer o rai eraill, pa mor anghywir oedd hynny!

Ond gwelwyd sioe fwyaf y byd yn cadw i'w haddewid a gwelwyd amrywiaeth o chwarae a thactegau dros fis o halibalŵ a phrydferthwch.

Gwelwyd trefn a chadernid yr Almaen ynghyd a'r gallu i ymosod ar wendidau eu gwrthwynebwyr yn sicrhau main hwy oedd y pencampwyr. Ond gwelwyd nifer o agweddau eraill yn ystod y gemau hefyd. Cawsom weld beth oedd gorddibyniaeth ar un chwaraewr gan yr Ariannin(Messi) a sut yr oedd rhyddid mynegol Colombia wedi ennill calonnau nifer o wylwyr. Yna cafwyd ffresni a syndod gan Gosta Rica, blas o genedlaetholdeb ac ymroddiad newydd dilynwyr yr Unol Daleithiau i’r gêm, ymosodiadau gwrth ymosodol yr Iseldiroedd, a pherfformiadau gol geidwad Mecsico , Guillermo Ochoa, a hefyd Tim Howard o'r Unol Daleithiau a Manuel Neuer o'r Almaen. Cyfrannodd hyn oll tuag at y cyffro diddiwedd a roddodd I ni rhai o'r gemau mwyaf cofiadwy a fu erioed.

Diddorol hefyd oedd nodi nad oedd cynghrair gorau'r byd wedi cael fawr o gynrychiolaeth pan ddaeth i rowndiau pellaf Cwpan y Byd.

Ie, amlygu ei hun yn ei absenoldeb wnaeth Uwch gynghrair Lloegr. Wedi’r cwbl, dyma’r Uwch gynghrair oedd yn gosod yr heip fasnachol mai hi oedd y gorau a welodd y byd erioed!

Malu awyr yn wir? ! " Scarcely believe" ar ôl y mis diwethaf!

Ond o leiaf mae yna son ei bod am geisio ail werthu ei hun fel y gynghrair fwyaf cyffrous yn y byd!

Ie wir! Ond os mai dyna'ch dileit, yna cewch lond trol o gyffro mewn cynghrair leol a does dim angen I chi dalu crocbris i weld hynny chwaith.

Os ydych yn amau'r gosodiad nad yw Uwch gynghrair Lloegr, yr un yr ydym yn talu cymaint am ei weld, yn fyw ac ar y teledu, yn cael ei ystyried fel y gorau, yna ystyriwch hyn.

Erbyn gemau'r rownd cyn derfynol, dim ond saith chwaraewr o'r uwch gynghrair oedd yn parhau i fod y gystadleuaeth ac yn cael eu lle yn gyson yn un o’r pedwar tîm oedd ar ôl.

Roedd gan Bayern Munich fwy o chwaraewyr yn y gemau cyn derfynol nac oedd gan holl dimau Uwch gynghrair gyda'i gilydd a dim ond dau chwaraewr o Uwch gynghrair Lloegr a lwyddodd i sgorio o rownd yr 16 ymlaen.

Mae’r ystadegwyr hefyd wedi dangos nad oes unrhyw un o’r Uwch gynghrair ymysg y deuddeng chwaraewr sydd wedi saethu mwyaf aml at y gôl, wedi driblo gyda'r bel, a dim un ymysg y rhai sydd wedi taclo'n llwyddiannus .

Ond daw nodyn o ganmoliaeth!

Sicrhaodd Tim Howard (golwr Everton a’r Unol Daleithiau) mai fo oedd y golwr a wnaeth y mwyaf o arbediadau mewn gêm, (pymtheg yn erbyn Gwlad Belg). Ymddengys hefyd fod Robin van Persie ( Iseldiroedd a Manchester United) ac Antonio Valencia ( Ecuador a Manchester United) wedi troseddu mwy o weithiau na neb arall, a bod Pablo Zabaleta (Ariannin a Manchester City) a Mathieu Debuchy (Newcastle United a Ffrainc) wedi llwyddo i daflu'r bel wrth ail gychwyn i aelodau o dimau eu hunain yn well na neb arall.

Ie, mewn rhyw fis fe fydd y gynghrair fwyaf cyffrous yn y byd yn cychwyn ar dymor arall. Croeso i uwch gynghrair gorau'r byd am faglu a thafliadau yng ngwlad y mêl a llaeth pêl droedaidd ! A digon o gyffro o'n blaenau!

Yn y cyfamser mae’n debyg fod yr Almaen wedi gosod platform i sicrhau y byddai’r “Almaenwyr ma” yn cario ‘mlaen i ennill popeth gan adael dilynwyr timau Uwch gynghrair Lloegr, gan gynnwys llawer o Gymry sydd yn gefnogwyr pybyr ohonynt, yn methu a deall pam nad ydi’r “wlad yma” yn ennill unrhyw beth!

Llongyfarchiadau i'r Almaen! Ymddengys fod yr “Hand of God” wedi cael ei danseilio gan y “Foot of Gotze”!

Oes, ma' na lawer o ffordd i fynd - ar y cae ac oddi ar y cae!

Gwyliwch y troseddu a’r tafliadau i mewn ( os nad y goliau!!)

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar y Marc: Alfredo di Stefano

Nesaf