Main content

Blog Ar y Marc: Alfredo di Stefano

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A Tra bydd ffeinal Cwpan y Byd yn cael ei chynnal nos Sul, bydd llawer o’r chwaraewyr yn cyrraedd pinacl eu gyrfa hyd yn hyn.

Ond yr wythnos yma daeth cysgod dros y gêm ar lefel rhyngwladol wrth inni glywed am farwolaeth un o’r chwaraewyr mwyaf dylanwadol a fu erioed.

Ni chwaraeodd Alfredo di Stefano erioed yn ffeinals Cwpan y Byd, er iddo gynrychioli’r Ariannin ( ei wlad enedigol) , Colombia ( yn answyddogol yng ngolwg FIFA) a Sbaen (yn dilyn ei gais am ddinasyddiaeth Sbaeneg) ! A thra mae'r dadlau yn parhau ynglŷn â phwy ydi’r chwaraewr gorau a fu erioed, (cewch enwi George Best, Lionel Messi, Johann Cruyff, Maradona neu Pele) i mi di Stefano oedd yr arwr.

Y gorau am mai fo oedd y mwyaf dylanwadol.

Cafodd ei eni yn yr Ariannin, gan gychwyn gyrfa gyda thim River Plate, yna yn dilyn streic gan y chwaraewyr, cafodd gynnig ymuno a chlwb Millionarios yng Ngholombia. A dyna gychwyn dylanwad cyntaf di Stefano wrth iddo fod yn rhan allweddol o gychwyn y gêm yn broffesiynol yng Ngholombia.

Yna yn 1953, daeth tro arall, tro enbyd ar ei fyd wrth iddo ymuno a Real Madrid.

Dwy flynedd wedyn, gwelwyd genedigaeth Cwpan Ewrop, a doedd dim sicrhad fod y gystadleuaeth newydd yma am fod yn llwyddiant. Cymaint oedd yr amheuaeth nes i Gymdeithas Bel Droed Lloegr wahardd Chelsea rhag cystadlu ynddi!

Ond dwy flynedd wedyn, roedd di Stefano, a Real Madrid wedi agor llygaid y Saeson a'u dylanwadu i ddod allan o'u cragen fewnol.

Pan chwaraeodd Manchester United yn erbyn Real Madrid yn rownd gyn derfynol y gwpan, roedd perfformiad y blaenwr wedi syfrdanu pawb. Roedd ganddo'r gallu i dderbyn y bel oddi ar y golwr, dweud wrth y cefnwyr beth i wneud, dylanwadu symudiadau pawb o'i gwmpas, a rheoli popeth a ddigwyddai yn y gêm.

Gyda Real yn bencampwyr Ewrop am y pum tymor agoriadol yn olynol, llwyddodd di Stefano i godi safon pêl droed yn uwch na’r hyn a welwyd erioed ar y cyfandir.

Newidiodd Leeds United eu crysau, siorts a sanau i fod yn wyn( fel Real) ac yn yr Unol Dalaethau ceir tîm o'r enw Real Salt Lake, popeth yn esgor oddi ar ddylanwad di Stefano. Ond yn ôl at gyfnod y chwaraewr.

Gyda Real Madrid yn ymddangos mai nhw oedd tîm gorau'r byd, penderfynwyd y byddai’n werth cymharu gallu di Stefano a'i dim gyda’r gorau o De America.

Yn sgil hyn, sefydlwyd y Copa Libertadores fel cystadleuaeth gyfatebol i gwpan Ewrop, yn Ne America. Daeth enillwyr y ddwy gystadleuaeth yma i chwarae yn erbyn ei gilydd er mwyn penderfynu pwy a fyddai'n cael yr hawl i gael ei gydnabod fel pencampwyr y byd.

Yn bersonol, allai byth anghofio perfformiad y blaenwr i Real Madrid ar Barc Hampden, Glasgow yn 1960 wrth i Real guro Eintracht Frankfurt o saith gôl i dair, a chipio'r bumed goron Ewropeaidd yn olynol.

Mae rhaglen y gêm honno gennyf, ac mae gen i gryno ddisg o’r gêm hefyd. Yn y cyfamser, pob dymuniad da i'r ddau dim fydd yn brwydro am y teitl o bencampwyr cenedlaethol y byd yn Rio. Mae Cwpan y Byd wedi bod yn werth ei ddilyn ac rwyf innau fel llawer arall wedi bwyta caws o’r Iseldiroedd, byrgyrs Americanaidd, cig eidion o Frasil, paella o Sbaen, tortillas o Fecsico, a phasta o’r Eidal yn ogystal ag yfed coffi o Gosta Rica a Honduras dros y mis diwethaf!

Diolch i'r timau oll am roi esgus i ni amrywio’r diet a hefyd am y cyffro.

Trist fodd bynnag y bydd pinacl y gêm fyd eang y penwythnos yma yn cael ei gynnal o dan gysgod marwolaeth un o ddewiniaid mwyaf dylanwadol a welodd y gêm erioed.

Alfredo di Stefano, peidiwch byth ac anghofio'r enw yna, a’i gyfraniad dylanwadol ar ein hoff gêm!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Golwg nol ar Gwpan Y Byd