Main content

Awst y 4ydd

Newyddion

Ar Awst y 4ydd 2014 fe fydd hi'n 100 mlynedd ers dechra’r Rhyfel Mawr, ac i gofnodi hyn mae Radio Cymru yn edrych am bobol ifanc sydd rwng yr oedran o 18 i 25 mlwydd oed, sef oed byddai bechgyn wedi cofrestru gyda’r fyddin i frwydro yn y Rhyfel Byd 1af.

Gofynnwn i chi recordio pytiau o'ch bywyd chi heddiw, a hynny ar y 4ydd o Awst ar eich ffonau symudol. Yr ydyn ni eisiau i chi recordio 4 darn, rhyw 2 funud o hyd, yn son lle ydych chi a beth yr ydych chi’n gwneud, i gael dipyn o flas o’ch bywydau chi heddiw wedi ei recordio dros gyfnod o 24 awr.

Yr ydyn yn edrych am drawstoriad o bobol ifanc, efallai eich bod chi’n ffermwyr, yn gweithio mewn ffatri, ailgylchu, yn gweithio ar yr heol, gweithio mewn ysbyty, ysgol, gofalu am rywun, torri gwallt, gweithio ar y môr, yn golchi ceir, gweithio mewn archfarchnad, yn y fyddin yn rhan o’r TA’s. Edrychwn hefyd am griw sydd newydd orffen ysgol, yn astudio yn y Brifysgol, yn nyrs neu yn ddoctor, deintydd pob math o fechgyn a merched.

Be fydd yn digwydd gyda’r deunydd?

Fe fydd Radio Cymru yn cynhyrchu rhaglen gan ddefnyddio eich lleisiau chi ac eich cofnod chi o’r diwrnod ac fe fyddwch yn rhan o gofnod hanesyddol.

Danfonwch eich deunydd at radio.cymru@bbc.co.uk

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf