Trip arall i Wembley ddydd Sul i Wrecsam a’i chefnogwyr, a dyma yn wir fydd uchafbwynt y tymor. Gyda pherfformiadau'r Dreigiau wedi bod yn siomedig ar y cyfan drwy gydol y tymor yn y Gyngres, yn enwedig yn eu gemau cartref , fe fyddai codi Tlws Cymdeithas Bel Droed Lloegr yn rhyw fath o gysur. I gyflawni hyn fodd bynnag, fe fydd rhaid dangos y galluoedd pennaf i orchfygu North Ferriby United, sydd yn chwarae yn yr adran o’r Gyngres gynghrair sydd islaw'r un mae Wrecsam ynddo.
Mae Wrecsam yn cael eu cyhuddo gan eu cefnogwyr o fod braidd yn ddiflas adref , ac ers cychwyn mis Chwefror maent wedi ennill pedair gem yn y Gyngres, dod yn gyfartal mewn pump a cholli dwywaith yn y cyfnod yma. Cafwyd siom ganol wythnos gyda pherfformiad anniben wrth golli o ddwy gol i ddim oddi cartref yn Nuneaton (cyn clwb eu rheolwr Kevin Wilkin). Ond diflastod eu chwarae yn eu gemau cartref sydd wedi llesteirio’r cefnogwyr a’r wasg leol gyda phedair o’r gemau cyfartal yma wedi eu cyflawni ar Gas Ras Prifysgol Glyndŵr. Yn y tlws, cafwyd buddugoliaethau dros Halifax a Torquay yn yr un cyfnod, gyda buddugoliaethau dros Facclesfield, Stockport a Southport (gyda'r ddwy gêm olaf angen eu hail chware ) cyn hynny.
Ond y Sul yma bydd bysiau a thrên arbennig yn cludo’r cefnogwyr i Wembley, yn union ac a wnaethpwyd ddwy flynedd yn ôl pan gododd Wrecsam y tlws yn erbyn Grimsby (yn dilyn ciciau o’r smotyn). Mae North Ferriby wedi cyrraedd Wembley ar ôl trechu Dinas Caerfaddon yn y rownd gyn derfynol, cyn trechu Ebbsfleet, Farnborough, Hyde, Boston a Mickleover cyn hynny , timau sydd i gyd yn chwarae mewn adrannau sydd yn is na’r Gyngres mae Wrecsam yn cystadlu ynddi. Ar yr wyneb felly, fe ddylai cefnogwyr y Dreigiau ddychwelyd yn ôl i ogledd Cymru yn hapus eu byd, ond i droi at yr hen ystrydeb, fe all unrhyw beth ddigwydd ar y diwrnod, a chyda pherfformiadau Wrecsam yn anodd eu darogan, d’oes wybod beth a fydd o'n blaenau! Buddugoliaeth arall ond dim ond drwy gynnal gem gyfartal am awr a hanner a dod yn fuddugol ar ôl amser ychwanegol efallai? Beth bynnag fydd yn digwydd, cofiwch ymuno a Dylan Jones a chriw Ar y Marc a fydd yn darlledu yn fyw y tu allan i Wembley cyn y gêm am 12.30.
Yn dilyn y cyfeiriad yn ddiweddar ar Ar y Marc at gynllun Wrecsam i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn eu gweithgareddau yn y dyfodol, mae Cymdeithas Bel Droed Cymru ynghyd ac Ymddiriedolaeth Pêl Droed Cymru hefyd wedi cyhoeddi cynllun i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg. Gwnaethpwyd hyn yn dilyn ymchwiliad i lefelau o ddefnydd yr iaith ymysg hyfforddwyr , a’r math o gefnogaeth sydd ar eu hangen i ddysgu neu ehangu eu defnydd o'r Gymraeg. Yn dilyn eu canfyddiadau fe fydd yr Ymddiriedolaeth yn cynllunio mwy o gyrsiau hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnal mwy o weithdai dwyieithog i gyfarfod a'r awydd i ddefnyddio mwy o Gymraeg o fewn sesiynau hyfforddi ar gyfer ein chwaraewyr ifanc ar hyd a lled Cymru. Gwnaethpwyd defnydd o’r Iaith gan Gymdeithas Bel Droed Cymru pan gyfarfu Real Madrid, enillwyr Cynghrair y Pencampwyr a Sevilla, enillwyr Cynghrair Ewropa yn Super Cup UEFA yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 12 Awst y llynedd . Rhoddodd hyn gyfle i ddangos i gynrychiolwyr UEFA fod yr iaith yn un weithredol a byw o fewn y byd pêl droed gyfoes. Da felly ydi gweld fod mwy a mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn nifer o agweddau o’r byd pêl droed erbyn heddiw a phob clod i’r Ymddiriedolaeth, fel Wrecsam, ar eu penderfyniad i wneud yr iaith yn un byw ymysg eu darpariaethau.
