Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Caryl Parry Jones - Harmoni
rhyfeddod - an astonishment
alaw - tune
cydganu - to sing together
undod - unity
heb os - without doubt
yn uniongyrchol - directly
gallu cynhenid - inherent ability
codi eiliau - raising eyebrows
lleygwr - layman
gogoniant - glory
...Caryl Parry Jones yn siarad gyda nifer o bobl o'r byd cerddorol am allu y Cymry i ganu mewn harmoni. Ydy hyn yn rhywbeth sydd yn rhaid ei ddysgu neu ydy o'n dod yn naturiol? Dyma beth oedd gan y criw i'w ddweud dydd Iau diwetha...
Bore Cothi - Tom Pryce
Ras y Pencampwyr - Champions Race
dyfodol disglair - a sparkling future
p'run bynnag - anyway
cryfder - strength
dim troi'n ôl - no turning back
Caryl Parry Jones a'i gwesteion yn fan'na yn cytuno bod harmoneiddio yn dod yn naturiol i'r Cymry. Yn amlwg dyddyn nhw ddim wedi fy nghlywed i'n canu! A hithau'n dymor y rasus ceir Formula 1 roedd hi'n amserol iawn i gofio am un o yrrwyr ceir rasio enwoca Cymru - Tom Pryce. Ar gyfer Bore Cothi ddydd Mercher roedd Tomos Morse wedi paratoi pecyn ar fywyd Tom Pryce, ond hefyd am y ffordd buodd o farw yn ifanc iawn, yn ddau ddeg saith mlwydd oed. Dyma i chi flas ar y pecyn..
Dylan Jones - Llyfrau plant
Gwyl Llên Plant - Children's Literature Festival
annog - to encourage
codi gwrychyn - raising the hackles
awduron amlycaf - the most prominent authors
hurt - stupid
gormod o bwyslais - too much emphasis
addasiadau - adaptasions
trosi - to translate
to newydd (idiom) - a new generation
llifo - to flow
Tomos Morse yn fan'na yn cofio am y gyrrwr ceir rasio Tom Pryce, neu Maldwyn fel oedd ei deulu yn ei alw. Roedd yr Wyl Llên Plant yn cael ei lansio yr wythnos diwetha i dynnu sylw at yr holl lyfrau sydd ar gael i blant y dyddiau hyn. Er mwyn annog plant i ddarllen llyfrau Cymraeg mae'r Cyngor Llyfrau am ddewis Llyfr y Mis, ond dydy pawb ddim yn hapus efo'r llyfr cynta gafodd ei ddewis fel y cawn ni glywed yn y clip yma o raglen Dylan Jones...
Beti a'i Phobol - Catrin Finch
telynores - harpist (female)
cysylltiad - contact
bywyd cartref - home life
ti 'mbod - ti'n gwybod
aeddfedu - to mature
unigrwy - unique
hwb - a boost
creu cerddoriaeth - creating music
Jennifer Jones oedd yn cyflwyno'r eitem yna am lyfrau plant Cymraeg ac mi glywon ni Bethan Gwanas a'r bardd plant Aneurin Karadog yn rhoi eu barn ar y cwestiwn o gyfieithu llyfrau i'r Gymraeg. Dan ni'n mynd i orffen yr wythnos hon efo darn o sgwrs rhwng Beti George a'r delynores enwog Catrin Finch. Symudodd Catrin o Gymru pan oedd hi'n undeg chwech oed i fynd i ysgol arbennig ar gyfer cerddorion. Roedd hyn y golygu ei bod yn newid byd a hefyd yn colli'r cysylltiad gyda'i mentor y delynores Eleonor Bennet. Dyma hi'n son am ei theimladau wrth iddi hi gyraedd Llundain yn ferch ifanc...
