Main content

Siom i Wrecsam yn Wembley

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Nid gem i ddiffinio tymor Wrecsam oedd Ffeinal Tlws Cymdeithas Bel Droed Lloegryn erbyn North Ferriby United i fod, ond mwy fel diwrnod i’w gofio.

 Ond, fel y digwyddodd pethau, fe gawsom ddiffiniad siomedig o dymor anwadal y Dreigiau ar ddiwrnod i’w anghofio.

Doedd dim golwg o unrhyw bryder wrth i Louis Moult roi Wrecsam ar y blaen ar ôl un munud ar ddeg, cyn i Jay Harris ychwanegu’r ail chwarter awr i mewn i’r ail hanner. Gyda dim mwy na pymtheng munud yn weddill roedd Wrecsam gyda meistrolaeth lwyr o’r gêm, ond yna daeth trobwynt.

Penderfynwyd tynnu'r capten ac angor allweddol y tîm yng nghanol y cae, Dean Keates, oddi ar y cae.

Yn dilyn hyn, mewn llai na chwarter awr, a heb eu harweinydd, collodd Wrecsam nid yn unig eu meistrolaeth o’r gêm, ond eu meistrolaeth o’u trefn a disgyblaeth eu hunain, wrth i'r golwr Andy Coughlin droseddu'n ddiangen, a gweld North Ferriby yn sgorio gyda chic o’r smotyn gan roi llygedyn o obaith iddynt eu hunain.

Ond , achub gem nad oeddynt wedi bygwth fawr ddim ynddi mewn chware awr ? 

Nid felly oedd calon y gwrthwynebwyr, gyda hyder yn codi a Wrecsam yn ymddangos fel petaent yn cael pyliau o banig. Yn sgil hyn i gyd doedd hi’n fawr o syndod gweld y sgôr yn dod yn gyfartal pedwar munud cyn y diwedd, gan wthio’r gêm i amser ychwanegol.

Gol yr un i’r naill dim yn y cyfnod yma, cyn gweld y gêm yn datblygu i giciau o'r smotyn. Dwy flynedd yn ôl dangosodd Wrecsam beth oedd cymeriad wrth gipio’r tlws yn y modd yma, ond erbyn heddiw doedd fawr o neb ar ôl o'r tim hwnnw i atgoffa eu hunaian o'r fuddugoliaeth a ddaeth yn yr un modd (a gyda un ohonyt oddi ar y cae erbyn hyn!).

Dangosoddd North Ferriby well ymroddiad a phan fethodd Steve Tomassen ei gic , wedi i Connor Jennings a Neil Ashton hefyd yn dangos sut i fethu, roedd popeth drosodd. Ie, gem a oedd o fewn gafael Wrecsam yn cael ei thaflu i ffwrdd gan gyfres o gamgymeriadau di-anghenraid a phenderfyniadau anesboniadwy.

Dydw’i erioed wedi bod yn un am farnu rheolwyr timau pêl droed yn hallt (mi brofais i ddigon o hynny fy hun yn uwch gynghrair Cymru) ond allai byth ddeall y penderfyniad i dynnu arweinydd a chapten, chwaraewr profiadol, ac angor ddiogel y tîm, oddi ar y cae chwarter awr cyn y diwedd, mewn gem ble roedd meistrolaeth Wrecsam mor amlwg. 

Bydd rhaid i Wrecsam feddwl yn glir am eu dyfodol. Hwyrach nad oes yna gyllid eang i gystadlu a’r gorau, dyna farn lawer o’r cefnogwyr, ond hyd yn oed os gellir cryfhau'r tîm ar gyfer y tymor nesaf, gyda chwaraewyr mwy profiadol, rhaid yn awr, yn sgil y penderfyniad i eilyddio'r capten, ofyn a yw tactegau a gallu'r rheolwr i wneud penderfyniadau a fyddai yn cyfnerthu perfformiadau yn ddigon addefed a doeth.

Ie diffiniad clir o dymor anghyson, siomedig a rhwystredig Wrecsam wedi ei grisialu mewn un perfformiad anghredadwy wrth i obeithion y tîm, y clwb a’r cefnogwyr gael eu codi i'r entrychion cyn cael eu taflu i'r gwynt a'r glaw yn Wembley mewn chwarter awr edifeiriol a fyddai’n cyniwair ar lawer un am beth amser. 

Tymor a diwrnod sydd yn dangos, er waethaf hanes a thraddodiad Wrecsam, fod y tîm presennol yn rhy anghyson a diddychymyg i fod yn fawr o fygythiad yn y Gyngres, ac yn ddim gwell ar hyn o bryd na thîm cyffredin y tu allan i brif gynghreiriau Lloegr.

Bydd angen llawer gwell os am wireddu y dymuniad i ddyrchafu a chadw i'r oesau a ddêl y glendid a fu.

Digon i'w drafod a'i ystyried, ond mi wn i'r hyn a fyddwn yn hoffi ei weld yn digwydd. Ond dyna ni, stori arall fyddai honno!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf