Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Dei Tomos - John Bwlchllan
cyfeillion - friends
gohebydd - correspondent
cyfnodau hesb - barren periods
pwt o newyddion - a snippet of news
ar y brig - at the top
sychu - to dry up
offer - equipment
yn swyddogol - officially
ffynnon - a well
dichon - possibly
"... clip o raglen arbennig yn cofio'r hanesydd Dr John Davies fuodd farw ychydig wythnosau yn ôl. Fel John Bwlchllan oedd llawer yn ei nabod o, ac roedd Lyn Ebenezer yn cofio'r amser pan oedd John yn warden ar neuadd Pantycelyn, lle roedd nifer o fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn aros. Ar y pryd roedd Lyn yn gweithio fel newyddiadurwr i'r Cymro ac fel y cawn ni glywed, roedd John Davies yn rhoi llawer iawn o storïau iddo fo..."
Rhaglen Dylan Jones - Mimosa
gorthrwm - oppression
deillio o - to derive from
chwynnu - to weed out
llif y stori - the flow of the story
aberth - sacrifice
her - a challenge
ymchwilio - to research
cymeriad - character
nwyddau - goods
adwaith - reaction
"Lyn Ebenezer yn fan'na yn cofio'r Dr John Davies ar raglen Dei Tomos. Dw i'n siwr eich yn gwybod erbyn hyn ei bod hi'n gant a hanner o flynyddoedd ers i'r Cymry cynta hwylio am Batagonia. Mae yna sawl digwyddiad am fod eleni i ddathlu hynny ac un ohonyn nhw ydy sioe gan y cwmni theatr i blant 'Mewn Cymeriad', sydd yn teithio ysgolion cynradd Cymru ar hyn o bryd. Sioe un dyn ydy hi o'r enw 'William Jones - Mordaith Y Mimosa'. Mi roedd William Jones yn un o'r cant pumdeg dau o deithwyr wnaeth hwylio i Batagonia ar long y Mimosa. Yr actor o Gaernarfon, Martin Thomas, sydd yn chwarae rhan William Jones yn y ddrama a dyma fo'n sgwrsio am y sioe efo Aled Hughes... "
Stiwdio - Kate Roberts
Brenhines ein Llen - Our Literature's Queen
cyfrifoldeb - responsibility
paratoi yn drylwyr - tp prepare thoroughly
pobi - to bake
tywallt - to pour
llofft - ystafell wely
dipyn o antur - a bit of an adventure
clogyn - cloak
barn - opinion
gwirion - silly
"Hanes sioe un dyn 'William Jones - Mordaith Y Mimosa' yn fan'na gan yr actor o Gaernarfon Martin Thomas yn siarad ar raglen Dylan Jones ddydd Mawrth diwetha. Dan ni'n cadw at y thema 'cofio' yn y clip nesa 'ma hefyd. Mae hi'n drideg o flynyddoedd ers i'r awdures Kate Roberts farw. Mae hi'n cael ei chofio fel "Brenhines ein Llen", ond ochr fwy personol o'i hanes hi glywon ni ar Stiwdio ddydd Mawrth diwetha. Roedd Nest Jones yn perthyn i'r Dr Kate a dyma hi'n disgrifio sut oedd hi'n ei chofio pan oedd Nest yn ferch fach... "
Caryl - Reiki
egni - energy
iachau'r corff - to heal the body
gwthio - to push
gorwedd - to lie
croen wrth groen - skin to skin
cyffwrdd - to touch
triniaeth - treatment
hir dymor - long term
gofynion - requirement
ailgyflwyno - to reintroduce
"Hanes bach personol am y Dr Kate Roberts oedd hwnna, gan Nest Jones oedd yn perthyn iddi hi. Dach chi'n gwybod be ydy 'reiki'? Bwyd orywle yn Asia? Diod alcoholaidd? Rhywbeth tebyg i Tai Chi? Wel naci, dim byd o'r fath. Dyma Mari Rhys a Lois Eckley yn esbonio wrth Caryl Parry Jones be yn union yn reiki, a sut y maen nhw'n medddwl ei fod yn rhywbeth sydd yn bwysig iawn yn y byd prysur sy ganddon ni y dyddiau hyn..."
