Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 24 Mawrth 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dewi Llwyd ar fore Sul - Alex Jones

teledu byw - live television

bach mwy o drefn - a bit more organisation

cydbwyso - to balance

codi - magu

agoriad llygad - eye opener

diodde(f) - to suffer

dipyn o gamp - quite an achievement

arbenigwr - expert

cyfanswm - total

dodi - rhoi/to put

"...Dewi Llwyd yn cael sgwrs penblwydd efo Alex Jones, sydd yn cyflwyno The One Show ar y BBC efo Chris Evans a Matt Baker. Mae Alex yn dod o Rydaman yn wreiddiol a chyn iddi weithio i'r BBC roedd hi'n cyflwyno rhaglenni Cymraeg fel Hip neu Sgip a'r rhaglen deithio Tocyn. Ac mi glywon ni ychydig am deithiau Alex yn ystod y sgwrs yma efo Dewi Llwyd. Yn y clip mae hi'n sôn am ei phrofiad yn ymweld ag Uganda fel rhan o dîm Comic relief... "

Bore Cothi - Ioan Doyle

dringo creigiau - rock climbing

i'r eitha - to the extreme

oen llywaeth - orphaned lamb

amaeth - agriculture

diadell - flock

cynyddu - increasing

teyrnged - tribute

dipyn o ddylanwad - quite an influence

yn uniongyrchol - directly

awyddus - eager

Alex Jones oedd honna - gwestai penblwydd Dewi Llwyd yr wythnos diwetha. Dan ni'n aros efo sêr y byd teledu rwan - y dringwr creigiau Ioan Doyle. Falle nad ydy o cweit mor enwog ag Alex Jones, ond roedd y rhaglenni am ei fywyd ac am ei ddringo ar S4C ' Blwyddyn y Bugail' yn boblogaidd iawn. Tasech chi wedi gweld y rhaglenni hynny mi fasech chi'n gwybod bod teulu Ioan yn ffermio, ac fel cawn ni glywed yn y clip yma ffermio defaid ydy diddordeb mwya Ioan erbyn hyn. Dyma fo'n siarad efo Heledd Cynwal ddydd Llun diwetha...

C2: Ifan Evans - her y rhaglen

yn gyffredin - in common

ymatebion - responses

her - a challenge

gosod - to set

rhan o'r corff - body part

trydar - twitter

hel(a) - casglu / to collect

Y dringwr creigiau, a ffermwr defaid erbyn hyn, Ioan Doyle yn fan'na yn siarad ar Bore Cothi efo Heledd Cynwal. Rwan ta be sydd gan y timau peldroed hyn yn gyffredin: Liverpool, Ribchester, Peterhead, Bolton a Hearts? Ymatebion gwrandawyr rhaglen Ifan Evans ar C2 i her y rhaglen oedden nhw. Ond be oedd yr her? Mi gewch chi wybod os wnewch chi wrando ar hyn ...

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Peldroed yng Ngemau'r Olympaidd yn Rio

Nesaf

Wrecsam ac Ar y Marc yn Wembley